Tudalen:Wat Emwnt.pdf/37

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

PENNOD IX.
Dysgu Darllen.
CREDODD Dai unwaith neu ddwy yn ystod yr wyth-
nos ddilynol fod Wat fel pe wedi digio wrtho am ei
siarad plaen noson y frwydr fawr. Ond gorfu
iddo'n ddiweddarach gyfaddef wrtho ei hun wneuth-
ur ohono gam â'i hen gyfaill, a da ganddo hynny,
oblegid ni charai er dim ddyfod o gwmwl rhyng-
ddynt.
Yn wir, nid oedd heb gredu yn y diwedd fod
Wat wedi ei hoffi'n fwy am y geiriau celyd eu
hunain.
(6
"Beth am y Pompran, Dai?" ebe fe ryw fore,
"Oti'r darllen yn gwella peth gen't ti?"
Gwella! fe allwn i feddwl hynny. 'Rwy'n
gallu mynd 'mla'n yn awr bron wrtho'm hunan,
heb lawer o help Mr. Thomas o gwbwl."
"Dyna'r peth glywa's i n'ith'wr yn y pentra,
ac nid wy'n meddwl llai am danat ti, am nad ti
d'hunan 'wetws 'ny gynta'."
"Diolch yn fawr ich'i Wat!" ebe'r llanc gan
wrido ychydig. Ond, bachan ! dyna beth
ardderchog yw gallu darllen, chretsech chi
ddim."
Creta i wir, wa'th fe leic'wn i allu darllen
m'hunan. Ond dyna fe-ffordd arall y mae hi, a
thrueni ma' dim ond y chi Ranters sydd yn dysgu
dyn'on."
'Wel, dewch yn Ranter 'ch hunan !"