Tudalen:Wat Emwnt.pdf/38

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

DYSGU DARLLEN
37
y
"Y fi'n Ranter! Bachan! fe fydda' dim taw ar
sôn o hyn i 'Berhonddu. Ond gad i fi dy glywed
yn darllen, mae gen't ti Feibl yn rhywle, tepig."
"O's yn y ty, fe af idd 'i 'nol e'r funud 'ma.
Cerwch lan i'r stapal erbyn dwa i ag e ma's."
Aeth Dai i'r ty i ymofyn y llyfr, ac aeth Wat i
fyny i'r ystabl yn barod er clywed y darllen.
(6 Bachan ! ma' gen't ti Feibl pert digynnig,"
ebe Wat ar dynnu o Dai ef allan odditan ei gòt.
"Ai hwn g'est ti'n bresant?"
((
"Ffordd gwyddoch chi i fi ga'l presant o gwbwl?"
Clywed yn y Tafarn Isha 'netho i n'ith'wr, ac
yr o'dd yn dda genny' he'd."
"
Wel, dyma fe, ta' beth, a chystal genny'r
ysgrifeniad ar 'i ddechra' â dim. Člywch, Wat,
Presented to David Price of Nantmaden, Penderyn,
for proficiency in the reading of his Bible.-William
Williams.'
(C
'Nawr, gwe'd yto pwy yw y William Williams
yma."
(C
Ond, Wat, bachan, y dyn 'ry'm ni'n canu 'i
emyna' fe. Galw h'ib'o oedd e ar 'i ffordd i Aber-
gwesin, wedi bod yn pregethu ym Morgannwg, mewn
Ile o'r enw Gofwlch, neu Gyfylchi, ne' rhwpath
tepig. Dyn golycus dros ben yw e' hefyd, a'i
wallt melyn yn hong'an lawr dros i ysgwydda'."
((
Hold on, Dai, 'does dim rhaid i ti feddwl fod
dyn yn un golycus o achos iddo roi llyfyr i ti.'
>>
66
'Rwy'n cytuno â chi, Wat, ond dyn glân dros
ben yw e' ta' beth wetwch ch'i."
(6
Olreit, dwed un o'i emyna' fe i ddechra. Gwell
iti b'ido'i ganu ne' fe ddaw Mali ma's i weld be sy
ar y mochyn."