Tudalen:Wat Emwnt.pdf/39

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Thenciw, Wat, ond dyma'r emyn ta' beth,-
Dros y bryniau tywyll, niwlog,
N'dawel, f'enaid edrych draw,
'R addewidion sydd i esgor
Ar ryw ddyddiau braf gerllaw.
Nefol Jiwbil, Nefol Jiwbil,
Gad im' weld y bore wawr.
"H'm, nid drwg! Beth pe cawn i glywed y
part o'r Beibl a ddarllenaist ti iddo fe 'nawr.'
"Arhoswch funud ynte, i fi ga'l 'i ffeindio fe.
Dyma fe-gwrandewch!"
"6
Yna Dai, gyda phwyslais arbennig a ddarllenodd
i bagan Brycheiniog yr adnodau cyntaf yn I. Samuel
xviii. : Ac wedi darfod iddo ymddiddan a Saul,
enaid Jonathan a ymglymmodd wrth enaid Dafydd,
a Jonathan a'i carodd ef megis ei enaid ei hun. A
Saul a'i cymmerth ef atto y diwrnod hwnnw, ac
ni adawai iddo ddychwelyd i dŷ ei dad. Yna
Jonathan a Dafydd a wnaethant gyfammod, o her-
wydd efe a'i carai megis ei enaid ei hun. A Jonathan
a ddiosgodd y fantell oddi am dano ei hun, ac a'i
rhoddes i Dafydd, a'i wisgoedd, ie, hyd yn nod ei
gleddyf, a'i fwa, a'i wregys."
Darllen da, digynnig, Dai, ia'n wir. Cystal
â Mr. Winter, a gwell am wn i, er 'i fod e'n 'ffir'ad.
Ond diaist i, dyna drwmpyn o'dd y Jonathan yna,
sbort yn iawn, 'ddyla' 'i. Chlywa's i ddim sôn
am dano fe o'r bla'n. Ond 'dwyn rhyfeddu dim
am dano wedi'r cwbwl yn mo'yn bod yn bartner
â Dafydd, os ma'r Dafydd yna o'dd y bantam bach
'ny a laddws yr heavy weight-beth o'dd 'i enw fe ?
slawer dydd-"