Tudalen:Wat Emwnt.pdf/40

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

"Goliath y'ch chi'n feddwl, tepig-Goliath o
Gath."
"Ia, dyna fe, ac fe ddylet ti fod yn falch ta'
Dafydd yw d'enw di. Do's dim un Wat yn y
Beibl, tepig iawn. Ond cofia ma' genn' i ewyrth
yn Jonathan, a thylwythyn lled biwr yw ynta'
hefyd, fel dy Jonathan ditha'. Dishgwl yma, Dai
bach, fe fydda' i'n mo'yn iti ddarllan i fi o hyn i
ma's, rhwpath a dipyn o sgarmej yndo, i ga'l cwnnu
'nghalon i 'nawr ac yn y man."
"Olreit !" chwarddodd Dai, "ond, cofiwch, do's
dim sôn am wmladd c'il'ocod yn y Beibl."
(6
Wel, ma' wmladd arall ddicon yndo, medde
pawb, a ble ma'r gwa'nia'th wn i rhwng dyn a
deryn? Ond dyna-gad i ni fynd 'nawr, a chofia
gatw dy bresant yn sâff."