Tudalen:Wat Emwnt.pdf/41

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

PENNOD X.
Cydwybod yn mynnu siarad.
FELLY y trefnwyd, ac felly y gwnaed. Darllenai
Dai rannau o'r Ysgrythyr i Wat wrth oleu cannwyll
yn yr ysgubor neu'r ystabl, tra rhoddai Wat ei farn
annibynnol ef ei hun ar y cymeriadau neu'r gweith-
redoedd. Sylwodd y darllennydd bach nad oedd
air mwyach am frwydrau'r adar, er y gwyddai, o
weld Wat yn dringo i fyny yn ddyddiol at y Pwll
Canol, fod y Beauty o hyd yn ei gastell mynyddig.
Ac un prynhawn mentrodd ef ofyn i berchennog yr
aderyn sut yr oedd Beauty wedi gwella ar ol ei
friwiau.
"O, ma' Beauty gystal ag yrio'd, ond rhwffordd
ne'i gilydd do's dim o'r un blas ar betha' 'nawr
wedi i fi werthu'r mochyn."
(
Pwy fochyn, Wat?"
"O, ia, wyddot ti ddim am dano, wrth gwrs.
Pan etho i o dy fla'n di i'r Plough y noswa'th hynny,
mynnodd perchen y c'il'og ga's 'i ladd gan Beauty
ar y Banwen ddala a fi, ei fochyn e' yn erbyn fy
ngini i, y wadai'r Lydney Boy 'y nghil'og i. Fe
gollws, wrth gwrs, ac fe etho i i mo'yn y mochyn
o'i dwlc ar y Banwen nos drannoeth.'
"Otych chi'n gweyd ichi gario'r mochyn bob
cam oddiyno?"
"Naddo, ond fe etho â'r merlyn mynydd a'r car
llusg at y gwaith ac fe ddetho â'r mochyn hefyd. Ond,
bachan, anghofia i byth wyneb y wraig pan welws hi
fod 'i bwyd hi a'r plant wedi ei golli gan y gŵr."