Tudalen:Wat Emwnt.pdf/42

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

"'Dych chi ddim yn arfadd bod yn galad, Wat.
Pam oe'ch chi mor galad y pryd hynny?"
"Fel hyn, ti'n gweld. Wela'st ti'r britsh pen
lin o'dd y dyn yn 'i wishgo yn y Plough? Wel,
fi o'dd 'i berchen e' unwa'th, ac fe colla's iddo fe
mewn matsh cyn i fi ga'l y Beauty. Ac fe dda'th
i'r Plough yn y britsh hwnnw'n unig er mwyn 'y
mhoeni i. Ond dyna fe-fel arall bu hi, fel gwyddot
ti, ac fe gollws ynta 'i fochyn."
(C
66
Beth 'nethoch chi â'r mochyn wedi'i ga'l e'?"
Mynd ag e' i'r un man â'r pysgod wrth gwrs,
ac fe geso gini am dano gan William Lewis, Tafarn
Cryw, ond dyna'r gini fwya' diflas geso i yrio'd."
"Beth am dani?"
66
Ia, beth am dani'n wir! Ond creta di fi ne'
b'id'o, cheso i ddim llonydd nes mynd â hi bob
cam i'r Banwen a'i rhoi i wraig perchen y c'il'og."
"A 'nethoch chi hynny'n wir, Wat?"
"Do'n eitha' siwr i ti, a diolch am waredu'r hen
gini. Pe bawn wedi ei chlippo, ni fyddai 'nghyd-
wybod i'n waeth."
""Wel, rhowch 'ch llaw, Wat, ddaw'r mochyn
yna ddim yn 'ch erbyn, ta' beth."
"Thenčiw i ti am 'weyd hynny, Dai; ond y
thenciw gora' geso i oedd yn llycad y wraig pan
ddeallws hi mod i wedi d'od i roi'r hen gini gythra'l
iddi. Dyna'r gwir i gyd i ti, ond paid sôn rhacor
am y peth, 'nei di ?"
"Na wna i, os hynny yw'ch dymuniad chi.
Ond pam, Wat, na adewch chi'r hen grefft o wm-
ladd yn llwyr ?"
"Ma 'want arno i 'neud hynny ambell waith,
ond un anlwcus wy' i wedi bod yrio'd."