Tudalen:Wat Emwnt.pdf/43

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Chlywa's i neb arall yn gweyd hynny ond y
chi 'ch hunan.
>>
amser.
"Mae'n eitha gwir, serch hynny. Ti wyddot
nad o's genny' air ar lyfyr, nag un tylwythyn cefnog
yn perthyn i fi 'chwaith. Er hynny ma' mryd i
yrio'd ar dd'od yn werth arian. Llawer gwaith cyn
i ti dd'od yma y buo i'n pysgota Hepsta er mwyn
talu am docyn lotri, ond dda'th dim i'm ffordd i un
Dyna was Cilwiber ym Mlaenglyn, fe
brynws e' docyn ac fe ga's fil o bunna' y tro cynta'
y mentrws. Ond am dano i-blank bob tro.
Wetyn fe wela's ddyn'on yn ennill llawer yn y pit,
dyn'on dim gwell na finna' na chystal chwaith i
'napod deryn da. Ac, meddwn i wrth m' hunan,
dim ond i fi ga'l 'chydig o'r atar o'r strain iawn, fe
ddo'n berchen arian heb ofyn dim i neb. A phan
oeddwn i bron wedi d'od i ben y ffordd, dyma
mishtir a thitha'n pregethu byth a hefyd wrtho i.
Dim ond unpeth eto sy'n ol i fi-wela i-mynd yn
lleidr penffordd."
"P'id'wch â sôn, Wat, am hynny, da chi. Do's
dim croci am wmladd c'il'ocod, ond os ewch chi'n
hw-a-man, dyna ddiwedd arnoch chi, heb un
OS.
Ond mae'n
"Weta's i ddim yr awn i, do fe ?
ddicon i ala dyn, oti, myn asgwrn i. Wn i yn y
byd a glywa' i rwpryd o'wrth y dandy hynny yn y
Plough a gynhicws ddeg gini i fi am Beauty. Ed-
rycha' hwnnw'n un a llycad at dderyn da, ta' beth,
a ma' deg gini'n ddeg gini bob amser."
"Eitha' gwir, ac fe'm tarews i fel gŵr caretig
he'd un a fydda'n ofalus o greatur mud. Ond os
ca' i ddweyd fy marn 'do'dd genny fawr golwg ar