Tudalen:Wat Emwnt.pdf/45

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

PENNOD XI.
Llythyr Pwysig.
YMHEN tridiau ar ol yr ymgom uchod rhwng y
ddau was, bu i Wat gryn gyffro, ar ei ddyfodiad i
waered o'r mynydd, o glywed gan Mali'r forwyn
fod llythyr iddo ar silff y dresser.
(6
"I fi! wyt ti'n siwr ? I mishtir 'rwyt yn feddwl!"
Nace, i ti !-MR. Watkin Edmunds, os gwelwch
chi fod yn dda !"
((
Estyn e' i fi, Mali! ma' nhra'd i'n frwnt i
fynd i'r room. Ble ma' Dai?"
" 'Roedd e' ar y buarth gynna'. 'Dyw e' ddim
ym mhell, MISTER Edmunds !"
"Paid shimplo dy well, Miss Mary Jones !
Ond dyco Dai, ar 'y ngair i.
Fe whilia i a thi wedi
i fi dd'od nol, MISS Jones!"
Aeth Wat allan i'r ystabl, ac wedi dangos yr amlen
i'r llanc, a chlywed eto fod y llythyr wedi ei gyfeirio
i Mr. Watkin Edmunds, Nantmaden, Penderyn, near
Hirwain, erchodd i Dai ei agor, a'i ddarllen allan.
Hynny a wnaed, ac i'r perwyl canlynol:
"If Mr. Watkin Edmunds of Nantmaden is
willing to sell his game cockerel-Beauty of the
Beacons, he will find Mr. Anthony Moore, at
present of the Castle Hotel, Brecon, ready to come to terms.
Should Mr. Edmunds bring his bird any
morning to the above hotel, he must inquire for A.
Moore, Esq., who trusts that this missive will lead
to business.