Tudalen:Wat Emwnt.pdf/46

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

LLYTHYR PWYSIG 45 (C "Beth yw missive, Dai?-'rwy'n diall y rest i gyd. Mae e'n mo'yn prynu'r Beauty, dybycwn i.' Oti, ma' hynny'n blaen, ac ystyr missive yw necas 'rwy'n cretu. Be' newch chi ? Dyma shawns ichi werthu ta' beth." "Wn i yn y byd mawr! Ond dyna sy'n od- 'rwy' ishws wedi gofyn i mishtir am gennad i fynd i'r dre' drennydd i weld Moc 'y nghendar. Fe fydda'n taro i'r dim i fi alw'n y Castle yr un pryd. Wyt ti'n cretu'n 'itha' siwr y bydde'r dandy bach, Mr. Moore yna, yn gretig i'r d'eryn?" "Wtw i-fe weta's hynny o'r bla'n." "Do, fe wn, ond bachan! mae e' shwd g'il'og pert,-cha i byth mo'i depig yto." Ni roddodd Dai un ateb i hyn am nad oedd ofyniad ynddo, ond amlwg iddo fod Wat mewn cyfyng gyngor ynghylch y cynnyg. Aeth trannoeth heibio ymron yn llwyr heb gyfeir- iad pellach at Aberhonddu a'i westy. Yr oedd Wat yn ddwedwst iawn drwy'r dydd, ac ni fynnai Dai er dim dorri'n anystyriol ar ei daw. Ond pan ar fedr mynd i'r ty dros nos mentrodd y llanc gyfeirio'n gynnil at fyned o'i ffrind i ffwrdd y dydd canlynol. (( Welai mo'noch chi 'fory, Wat, tepig." (6 Na, Dai, fe fyddai i wedi mynd cyn dydd, ond d'wn i yn 'y myw beth a wnaf â'r c'il'og. Fuo i yrio'd m'wn shwd fix naddo, ar f'ened i.' Teimlai Dai oddiwrth y lleferydd ei fod yn dywedyd y gwir, oblegid nid byth y galwai Wat ar ei enaid yn dyst ond yin munudau ei gyffro mwyaf, gwnai myn asgwrn i" neu "ar fencos i y tro ar achlysuron llai. 66