Tudalen:Wat Emwnt.pdf/47

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

46 WAT EMWNT Teimlai Dai mai gwell hefyd a fyddai iddo ef ei hun fod yn dawedog oblegid pe mentrai ef ar gymeradwyo gwerthu'r aderyn priodolid ef ar un- waith i'w gredo fel Ranter a byddai Wat yn sicr o'i wrthod. Felly aeth y llanc i'w wely heb fod nemor callach am fwriadau perchen yr aderyn am y dydd can- lynol, ac ychydig a feddyliai, pan ymadawai ag ef y noson honno mai hwnnw oedd y tro olaf iddynt weled ei gilydd am rai blynyddoedd. Bore trannoeth yr oedd lle Wat yn wâg wrth y bwrdd. Nid oedd neb yn y ty yn rhyfeddu dim am hynny, am y gwyddid fod yn ei fwriad i gychwyn cyn dydd. Ond fel y tyfai'r diwrnod daeth i feddwl Ďai mai hynod o beth oedd na ofynasai Wat iddo am ofalu am yr aderyn, hynny yw, os ei adael ar ol oedd ei fwriad. Rhaid, wedi'r cwbl, ei fod o'r dechreuad yn benderfynol o'i werthu. Ond mi af," ebe'r llanc wrtho ei hun, "i'r Pwll Canol y prynhawn yma i ga'l bod yn siwr, ta' beth." (6 Hynny a wnaeth ar ol cinio, ac yn sicr ddigon nid oedd yn y cwt ar y mynydd na cheiliog nac arall. "Diolch am hynny!" ebe Dai, "ond fe boena' i 'rhen walch wedi'i dd'od 'nol, am 'y nghatw i yn y tywyllwch. Ond hen fachan annw'l yw e' wedi'r cwbwl, er 'i fod mor 'styfnig weitha'.'