Tudalen:Wat Emwnt.pdf/48

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

PENNOD XII. Mynd i Aberhonddu. Y BORE hwnnw, rai oriau cyn dydd, curwyd wrth ddrws Tafarn Cryw gan Wat Emwnt o Nant- maden, a rhaid ei fod wedi cychwyn i'w daith tuag yno yn oriau mân y bore, cyn y gallai gyrraedd yno mor gynnar ag y gwnaeth. "Be sy' arnoch chi i gyd heddi? Otych chi am droi'r nos yn ddydd? Do's dim deng munud odd'ar pan agora's o'r bla'n i Domos Dafi, Tre- garon, a o'dd ar 'i ffordd yn ol o Ferthyr. Be sy' genn' ti heddi'? Pysgod neu beth? Fe wela'i sach genn' ti, ta beth." " 'D'os genny' ddim yn y sach i chi heddi', William Lewis. Gweld y gola' 'nes i, ac fe dda'th 'want peint arna' i.' (6 O, felly, yr wyt yn mynd ymhellach, fe dybycwn, gan dy fod wedi cwnnu mor gynnar." (6 Wel, a'm otw, 'rwy'n mynd i'r dre' i weld 'y nghendar Moc. Edrychwch ar hwn, William Lewis, 'newch chi (gan estyn llythyr Mr. Moore i'r tafarn- wr) 'falla' gwna' i dipyn o fusnes arall yno hefyd. Llythyr yw e' o'wrth Mr. Anthony Moore o 'Ber- honddu." "Na, darllen di e', Wat, d'wy i ddim sgolhaig. Un peth yw scor'o peint neu gwart ar gefan drws, peth arall yw darllen llythyr gŵr bynheddig." 66 'R'ych 'run peth a finna'n gwmws ynte, ond cynnyg prynu'r c'il'og mae 'e ta' beth." "Faint mae e'n fo'lon roi ?"