Tudalen:Wat Emwnt.pdf/49

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

WAT EMWNT (6 Deg gini ar 'm llaw." "Da digynnig, 'rwyt yn gwerthu, tepig iawn. A dweyd y gwir wrthot ti, 'rown i'm hunan wedi meddwl cynnyg pump i ti am dano. Ond 'dalla' i ddim cystadlu a gwŷr yr ha'rn. Ti wyddot, wrth gwrs, ma' nai Mr. Bacon o Gyfartha' yw Mr. Moore. Bachan ! dal ma's am bymthag, ti cei nhw, rwy'n siwr, wa'th c'il'og da yw'r c'il'og. Galw wrth dd'od 'n ol i ga'l clywed yr hanes. A dim ond iti ddoti'r go's ola' mlaena' ti ddeli Domos Dafi wrth glwyd Blaenglyn 'nenwetig os yw e'n ca'l dipyn o sgwrs gyda'r Hen Binshwner fel arfadd." "Olreit, dyma fi'n mynd!" ar ar hyn cododd Wat ei beint at ei enau, cydiodd yn ei sach, ac allan ag ef i'r tywyllwch. Yr oedd William Lewis, Tafarnwr Cryw, wedi barnu'n iawn, oblegid ar neshau o Wat at Glwyd Tyrpig y Mynydd clywai ddau yn ymgomio'n uchel; ac a barnu wrth y siarad, y drofer oedd ar fedr ymadael i'w daith "'Rhoswch funud, Tomos Dafi, 'newch chi," ebe Wat ryw ddeugain llath oddiwrthynt. (² Pwy sy'n galw, ac mor fore â hyn?" Cyfaill ar daith," ebe Wat drachefn. (6 (6 Dewch ymla'n i'r gole' ynte !" ebe'r drofer yn uchel drachefn, ac ebe fe mewn llais isel wrth geidwad y glwyd, sef oedd hwnnw yr Hen Bin- shiwner, Paid mynd miwn am funud. Shors, 'dwy i ddim yn leico cyfeillion hewl y brenin i gyd chwaith." Ar hyn yr oedd Wat wrth y glwyd, ac o fewn cyrraedd y siarad. Yr Hen Binshwner a dorrodd ar y tawelwch gyntaf, ac ebe fe, "Wat! y ti sy'