Tudalen:Wat Emwnt.pdf/5

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

RHAGAIR. Un o'r ddwy nofel a farnwyd yn gydradd am y wobr gyntaf yn Eistedd- fod Pwllheli, 1925, yw "Wat Emwnt." Yr Athro Edward Edwards, M.A., Aberystwyth, oedd y beirniad, a rhydd ef air uchel i'w theilyngdod.

Cyhoeddir hi am bris isel gan ddisgwyl y bydd iddi gylchrediad helaeth. Ceir gan yr Awdur ddisgrifiad byw ryfeddol o'r bywyd Cymreig yn niwedd y ddeunawfed ganrif. Disgrifia'r nofel gyd-fuddugol, "Toriad y Wawr," gyfnod cyntaf yr un ganrif. Rhwng y ddwy ceir cipdrem gyflawn ar fywyd Cymreig y ddeunawfed ganrif yn ei wahanol agweddau. Chwefror, 1928. Y CYHOEDDWYR

Y FEIRNIADAETH. Polycarp.-Try'r ystori hon o gwmpas cymeriad difyr "Wat Emwnt" er disgrifio bywyd Cymreig Brycheiniog a Morgannwg yn chwarter olaf y ddeunawfed ganrif. Syrthia Polycarp ar galon ei destun yn y frawddeg gynta, ni chrwydra oddiwrtho tan y diwedd. Amlwg iawn fod crefft y nofelydd byw yn rhedeg drwy y nofel oll. Mae ei druth mor ddifyr a fires nes y teimlwn fy mod yn adnabod Wat Emwnt yn iawn, ac i mi fod gydag o mewn ymladd ceiliogod ac yn dianc rhag y Press Gang. Treuliodd hwyrach, ormod o amser yn yr Amerig,-ond gwir ddiddorol ei daith adre. Darlun byw a chywir ar ochr newydd i fywyd gwlad, dosbarth y gwas fferm, dosbarth yr heliwr a'r sowldiwr. Mae'n wir dda drwyddi o'r dechreu i'r terfyn.

Pryderi. Hanes "Toriad y Wawr" yn Llŷn,-diwygiad y ddeunawfed ganrif-mewn ffurf hunan-gofiant gan Huw Tomos o Fadryn, anwyd yn 1715. Nofel gampus mewn Cymraeg glân ac arddull ddifyr brawddegau awgrymiadol yn taflu goleuni clir ar gymeriadau yr ardal fel y maent yn fyw ger eich bron. Dadlennir arferion yr oes, ei phechod a'i hanwybodaeth, ei hofergoeledd a'i dyhead, a dylanwad y pregethwyr teithiol a'u hanaws, terau yn effeithiol dros ben. Wrth ddarllen rhannau ohoni teimlwch eich bod yn dal eich hanadl gan mor nerthol iaith a disgrifiad yr erledigaeth. Mac'n faith, ond dymunem iddi fod yn hwy o lawer.