Tudalen:Wat Emwnt.pdf/50

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MYND I ABERHONDDU 49 'na? I ble wyt ti'n mynd yr amser hyn? yn ddi- weddar am n'ith'wr ne'n gynnar am heddi', wyt ti, dwed?" "O, cynnar am heddi'," chwarddodd Wat, gan feddwl am bosibiliadau eraill yn y gair, ac fe glywa's gan William Lewis yn Nhafarn Cryw 'ch bod chi o mla'n i ar yr hewl, ac fe frysia's i'ch dala er mwyn ca'l lifft i'r dre." (( Olreit, Wat, neidia i'r lan! ond pe baet ti heb 'y nala wrth y glwyd a thitha'n galw arno i ma's o'r t'wllwch fe fyddwn wedi dy saethu heb un petruster. Ti fuot yn lwcus am unwaith. Shwd ma' petha' tua Phenderyn yna ? 'Rwy'n clywed eu bod yn mynd i 'neud hewl newydd heib'o i chi o Aberdâr i'r dre?" "Fe glywa's inna' hynny he'd-trwy Hirwaun, y Pompran a Hepsta." "Ma' nhw'n gweyd fod Bacon, Cyfartha' yn dechra' rhywbeth sha Hirwaun, fe fydd yno le da i werthu moch-ceirt ma's law, tebig iawn.' "Bydd, am wn i, ma 'i w'ith'wrs ymhobman ishws-pudlers ar Hirwaun, calchwyr yn y Pomp- ran, a mwynwyr wrth Graig y Llyn." (6 "Mae'n amser prysur yno ynte rhwng popeth." Prysur! Oti, greta i, gyda dyn'on Fforest-o- Dên wrth y Plough, a'r Ranters dwl yn y Pomp- >> ran. "Be sy'n ddwl ynddi nhw ?" "Canu, a gweddio, a phetha' felny, a 'nawr ma' nhw wedi acor ysgol yn y Pompran i ala'r drwg yn wa'th." "Ellid di ddarllen d' hunan?" "Na alla' i, ma'r nefo'dd yn gwpod." D