Tudalen:Wat Emwnt.pdf/51

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

50 WAT EMWNT "Leicet ti ddim gallu g'neud hynny? Mae llawer o'r dynion mwya' tluaidd yn ein hardal ni wedi dysgu ers tro.' "Wel, a lwo'r gwir, fe leicwn, a 'falle' nawr ych bod chi'n un o hony' nhw a finna'r whilia fel hyn. Ac fe wn i am un neu ddau o'r Ranters yn y Pompran, m' hunan, sy'n 'itha' tluaidd hefyd." Teimlai Wat ei fod ar dir peryglus wrth ddal ymlaen yr ymgom yn y cyfeiriad hwn, ac felly o dipyn i beth, trodd yr ymddiddan at foch, a'r galwad mawr am foch ceirt yn ardal Merthyr. Oddiwrth hynny trowd drachefn at lwc ac anlwc gyda lotri, gan ddiweddu gyda'r newyddion cyff- rous o'r Amerig lle yr oedd y trefedigaethwyr eisoes yn anesmwyth ac yn bygwth torri i ffwrdd oddiwrth yr hen wlad. Ac â'r teithwyr yn agoshau at Lanrhyd dech- reuodd ddyddio ac erbyn eu bod wrth bont Llanfaes, ac yn myned i mewn i'r dre yr oedd y trigolion yn dechreu myned yn ol a blaen wrth eu gorchwylion. "Diolch yn fawr ichi, Tomos Dafi, am 'ch lifft, mae wedi arbed naw milltir o gerad i fi. Ddewch chi miwn i'r Fountain am lasad? Mae ichi 'reso !" "Na, dim heddi', Wat, diolch. A chofia hyn, os cei di gyfle i glywed Jones Llangan neu Hywel Harris Trefeca rywbryd, cer' idd 'u clywed nhw, ac yna fe ga i siarad â thi. Bore da, a dwed wrth dy feistr fod y moch yn mynd i godi, wnei di ?" "Fe wna'. Bore Da !"