Tudalen:Wat Emwnt.pdf/52

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

PENNOD XIII. "Hir pob Aros." "Well, my man, what is it you want?" Dyna a ddywedodd gwas gwesty mawr Aberhonddu wrth Wat Emwnt ar guro ohono ar ddrws neilltuol y tu fewn i'r cyntedd allanol. (( Anthony Moore, Esquire, sir," ebe'r Cymro, gan deimlo llawer o yswildod wrth fod yn y fath le rhwysgus. "Then you won't see him till after dinner, ebe'r llall drachefn gan lygadu'r gwladwr o'i ben i'w draed. "He went out hunting this morning." ( (( You O," ebe Wat, "me come again after dinner." Very well, then, but it will be a long time. can leave anything with me if you like," hyn gydag edrychiad llym ar y sach. "No, nothing leave," ebe Wat drachefn, gan droi i fynd ymaith gan wasgu'r sach a'i chynnwys gwerth- fawr at ei ochr. "Be' wna i 'nawr ?" ebe fe wrtho ei hun, " wela' i mo Moc cyn y prynhawn, a 'dwy i ddim am iddo w'pod am y deryn chwaith. Fe ro' i fwyd i'r Beauty yn gynta' dim, ta' beth wna' i wedyn." Ar hyn aeth yn ol i'r Fountain wrth y bont, ac wedi galw am yfed iddo ei hun, fe ofynnodd os ca'i ef fynd i fwydo'r aderyn yn y stabl. "D e' ddim wedi ca'l briwshonyn heddi !" (( "Cewch, yn enw dyn," ebe'r wraig yn hawdd- gar, a dewch yn ol 'ch hunan i ga'l tipyn o fara a chaws wedyn."