Tudalen:Wat Emwnt.pdf/53

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

52 WAT EMWNT "Diolch ichi, Mrs. Prydderch, fe ddwa ar 'ch gair." "( Hynny a wnaed, ac wedi gollwng y Beauty yn rhydd yn yr ystabl, a'i fwydo'n ofalus a chigfwyd, a dynnai ei berchennog allan o logell ei gôb, daeth crwt o grŵm, tua deunaw oed, i'r lle ato." 'C'il'og pert ofnadw'!" ebe hwnnw. "Dwed- wch wrtho i-a o's wmladd i fod yn y dre heddi'?" Nag o's, am wn i, pam 'rych chi'n gofyn?" Dim, ond bod lot o Saeson diarth yn y bar y funud hon, ac nid yw hi'n ddydd ffair na march- nad chwaith. A dyma ch'itha' a'ch c'il'og yn y man hyn wedyn. Meddwl, 'rown i, fod rhwbeth i fod heddi'." (( "Falla' 'i fod e'n wir, ond dyw'm c'il'og i ddim yn mynd i'r pit am rai dyddia' ta' beth." 66 'O, 'rwy'n gweld, ond fe weta i eto, fod gennych chi dderyn pert, o's, byth na chyffro i !" 66 Oti, ma' Beauty yn eitha' game, ac wedi profi hynny fwy nag unwa'th. Dewch i miwn am las'ad gyda fi!" I mewn yr aed, ac yno gwelwyd, yn ol dywediad y grŵm, fod amryw o Saeson dieithr yn y lle, ac yn uchel iawn eu swn gyda llaw. ( "ebe "Go blimey! Talk about your Slasher,' un, "Tom Crap's the boy for me! There's nothing in England to touch him!" Ar hyn aeth y siarad yn uwch fyth, a bu sgwrs hir a gwresog am allu paffiol oreuon y grefft y dyddiau hynny. Un amser ymddangosai fel pe bai cynnyg i fod arni yn y man a'r lle hwnnw. am hynny brysiodd Wat i gwblhau ei bryd o fara a chaws, a chan wacau ei beint, a nodio i'r grŵm Ac