Tudalen:Wat Emwnt.pdf/54

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

HIR POB AROS 53 a fu mor dda ei chwaeth am aderyn game aeth allan i'r heol unwaith eto, a'i sach o dan ei gesail. Cerddodd yn araf i gyfeiriad y bont, lle yr oedd amryw o weilch yn syllu i lawr gydag eiddgarwch i'r pwll islaw. (6 Dacw fe!" ebe un, a real beauty hefyd." Wrth glywed y gair "beauty," enynnwyd cyw- reinrwydd Wat, ac o syllu'n fanwl, gwelodd fod yn y dwfr nid yn unig un eog mawr ond tua hanner dwsin eraill hefyd, nad oedd y cwmni ar y bont eto wedi sylweddoli eu presenoldeb. "Mae run dda eleni," ebe Wat wrth y llanc nesaf ato. "Welwch chi'r ddou arall yco wrth y garreg fawr ?" "Gwela', myn jiawch i, 'ry'ch chi, ddyn diarth, yn gwpod rhwpath am bysgod, rwy'n gweld. 'Falla' ta' samwn neu ddou sy'n y ffetan gyda chi'r funud yma. Ma' lot gyda ni'r whippets i ddysgu genny chi old dogs yto, o's, myn jiawch i.' Chwarddodd Wat ar hyn, a dechreuodd symud ymaith rhag ofn y byddai sports y bont yn profi'n rhy ymchwilgar, ac wedi myned ohono cyn belled â Newton, hen gartre Syr Dafydd Gam, a syllu ar harddwch y gerddi yno, trodd yn ei ol i'r bont drachefn, ac aeth drosti eilwaith i'r dre. 66 ( "Tepig y bydd cin'o yn y Castle am un," ebe fe, ac os gofynnaf am y gŵr bynheddig obithtu ddou fe fydd popeth yn iawn, greta i." Ond pan alwodd ef, wedi cerdded yn ol a blaen hyd yr awr honno, mawr oedd ei siom o gael ateb "It was after sarrug gan yr un gŵr ag o'r blaen, dinner I said, man. Don't you understand English? Seven o'clock-make sure this time !"