Tudalen:Wat Emwnt.pdf/55

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

54 WAT EMWNT Druan o Wat-canol dydd oedd awr ei giniaw ef drwy'r flwyddyn yn gyfan, a pha fodd y gallai ef wybod fod awr giniaw y gwŷr mawr yn wahanol i awr giniaw Nantmaden? Aeth allan o'r gwesty yn wylaidd iawn, a cherddodd yr heolydd unwaith eto, gan brofi'n llawn mai "hir pob aros." Ond hirach fyth a fyddai onibai clywed a gweled ohono lu o filwyr wrth eu hymarfer ar feili'r castell. Agos- haodd atynt, a diddorol iawn ydoedd gweld y symudiadau rheolaidd a'r troi chwim. "" Ag ef ar fedr ymadael â'r beili er rhoi tro arall drwy'r ystrydoedd culion gwelodd fod y Saeson a yfasai yn y Fountain y bore hwnnw hefyd yn y cylch a wyliai'r milwyr. A phan ymadawodd swyddog neilltuol a'r rhelyw o'r milwyr, gan ddyfod i'w cyfeiriad hwy, canfu Wat er ei syndod hwynt oll yn ei gyfarch â saliwt filwrol. Rhy- feddodd y Cymro ychydig am hyn ar y pryd, ond deallodd y rheswm am y saliwt yn fwy eglur maes o law.