Tudalen:Wat Emwnt.pdf/56

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

PENNOD XIV. Bargeinio Cyndyn. PAN dreuliodd y prynhawn hyd at bedwar o'r gloch, a Wat yn troi'r gongl er cyrchu'r Struet unwaith yn ychwanegol, daeth i'w gyfarfod hanner dwsin o fytheiaid ynghyd a thua dwsin eraill ar eu holau yn eu dilyn yn ddeuoedd ac yn drioedd i fyny dros yr heol. Yna nifer o helwyr yn eu cotiau cochion ar eu meirch, a'r holl dre ar y palmant yn syllu arnynt. "Dyma'r dyn o'r diwedd!" ebe'r Cymro wrthi ei hun, a chyda'r gair wele un o'r helwyr yn troi oddiwrth y lleill ac yn ei gyfarch, "The very man! How are you Edmunds? Come to the hotel and I shall see you at once." Prysurodd y siaradwr ar hyn ar ol ei gydhelwyr a phrysurodd Wat ar ei ol yntau. Erbyn cyrraedd ohono ddrws mawr y gwesty, daeth Mr. Moore, ag ef eto yn ei got goch gyda'i ffrewyll yn ei law, allan i'w gyfarfod, ac ebe fe, "Follow me," ac a'i dug i ystafell fechan y tu ol i ystafell fawr y giniaw. If you are like me, you are jolly thirsty, let me call for a glass of ale for you before we proceed to business." (6 "C 33 Thank you, sir, ebe Wat yn foesgar, a chyn pen munud yr oedd y ddau wedi eu disychedu yn barod i'r siarad pwysig. ac Tis like this, d'ye see," ebe Mr. Moore, "the gentlemen of Hereford have challenged the gentle- men of Brecon to a main of six brace, and when I