Tudalen:Wat Emwnt.pdf/59

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

58 WAT EMWNT i aros yn y Fountain am y nos, a gwelaf Foc yn gynnar yn y bore. Yna cysgaf yng Nglanrhyd nos yfory a byddaf yn Nantmaden drennydd. Hei-ho wedyn -Wat Emwnt yn ffermwr ym Mlaen Hepsta, ac yn berchen ar bedair buwch. Hei-ho'n wir!" Erbyn hyn yr oedd ef drwy y porth yn glir, ac yn tynnu at y bontbren gul a arweiniai dros Honddu i'r Struet. Ag ef a'i droed arni eisoes, ac yn estyn ei law at un o'r canllawiau wele ddeuddyn yn rhuthro arno o gyfeiriad y dre ac yn ei wasgu'n ol oddiar y bont hyd at y prysglwyni yn ymyl y llwybr a arweiniai ati. Mor sydyn oedd yr ymosodiad, ac mor absennol ei feddwl yntau fel na roddwyd iddo amser i'w amddiffyn ei hun i nemor pwrpas, a phan gododd ei fraich o'r diwedd i daro un o'r milein- iaid a'i llindagai tarawyd ef ei hun ar ei ben gyda'r fath nerth nes ei fod yn ddadfyw, a syrthiodd ar y llwybr yn un sypyn diymadferth. 65 Quick, Joe, lets carry him back to the granary before anybody comes. He'll make a fine soldier by and by I'm thinking. You should'nt have struck him so hard though-hear him groan!" " Go blimey! what was a chap to do, when he was half-choking brother Alf all the toime !" Yr oedd Wat, druan, wedi syrthio i ddwylo'r press gang, ac ar yr awr yr ymddangosai fel ar drothwy bywyd annibynnol a hapus, wele, mewn un munud gynhyrfus, ddryllio ei holl gynlluniau, a'i daflu yntau i gylchynion nad oedd ganddo ond y meddwl prinnaf am eu bod, chweithach eu profi.