Tudalen:Wat Emwnt.pdf/60

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

PENNOD XV. Henffordd. WEDI ysbaid o amser na wyddai Wat mo'i hyd, teimlai ef ei hun mewn rhyw hanner breuddwyd, ac o dan hunllef arteithiol na allai ddirnad am ei natur. Briw ydoedd yn ei holl gorff, a gwaeth na hynny, briw yn ei feddyliau cymysglyd hefyd. Beth oedd wedi digwydd iddo? Ymha yr ydoedd? Ac uwchlaw popeth beth oedd y cur anfad yn ei ben, a barai gymaint loes iddo? Ar hyn, cododd ei law at y man a'i doluriai fwyaf, ac i'w syndod yr oedd yno gadach o ryw fath, a chlustogen fechan o ddail odditani yn esmwythyd i'r archoll. Ceisiodd y foment nesaf dynnu'r cwbl i ffwrdd, ond cymaint oedd ias y poen a ddilynodd fel yr ymataliodd. Erbyn hyn dechreuai sylwi o'i gylch. Nid ffenestr unrhyw ystafell yn Nantmaden yn sicr oedd yr un fawr gyferbyn â'i orweddfan, ac nid ei wely gwellt ei hun oedd a'i cynhaliai ychwaith. Dyna'r mur- iau moelion gwyngalchog hefyd-perthyn i ba adeilad oeddynt hwy? Ag ef yn ceisio dyfalu'r holl bethau hyn, clywai'n gyson rês o eiriau gorchmynnol yn dilyn ei gilydd, ambell waith ymhell oddiwrtho, a phryd arall fel pe dan ei ffenestr. Dyna hwy eto,-"By the left! Quick March! Left Wheel! Mark Time! Halt!" Ymhle clywsai ef y rheiny o'r blaen ? Y prynhawn hwnnw wrth gwrs ar feili'r castell. Rhaid mai wedi breuddwydio dipyn yn fwy eglur