Tudalen:Wat Emwnt.pdf/61

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

60 WAT EMWNT nag arfer a wnaeth ef, a bod y geiriau dieithr hynny wedi gafaelyd yn ei feddwl yn gryfach na'r cyff- redin. Fe droai'n ol i gysgu drachefn ac yna byddai'n well arno, ond ar ailosod ohono ei ben ar y glustog, gymaint oedd pang ei boen fel y cododd ef yn ei eistedd gyda llw ar ei fin. Hullo! No. 17, what's the trouble?" ebe llais yn ei ymyl. "You won't be much good for the King if you'll always wake the camp like that." 66 Camp!" beth oedd hwnnw, a pha beth oedd a fynnai ag ef, Wat Emwnt o Nantmaden? Byddai'n rhaid gofyn am ragor o fanylion am y pethau hyn, ond yn rhyfedd iawn, ag ef eto'n meddwl a llefaru wrtho ei hun, parhau yn ei glustiau o hyd oedd y brawddegau sydyn-"By the left! Quick March! Left Wheel! Mark Time! Halt!" ac nid oedd yn eglur yr un esboniad arnynt. (6 Hei!" ebe fe wrth y gŵr a'i galwodd yn No. 17 gynneu, ac a arhosai o hyd wrth droed ei wely, "Where am I, please? tell me, please?" "I'll tell you right enough, but whether ut'll please you is a horse of another colour. You are in Hereford Barracks, and ut won't be long 'fore you and the other recruits will be out there, marching it in the yard. Don't yer hear them? So git well at the double quick will ye? But do'nt talk too much yet. Your chance will be better by 'm by." "Barracks? Recruits? Marching it?" 'doedd e' ddim erioed wedi listo. Fe ai e' adre ar unwaith. " 66 Hei!" ebe fe wrth yr un dyn drachefn, Me go home. No barracks for me. Me rise now." Chwarddodd y llall yn uchel am hyn ac ym- ddangosai fel pe'n cael difyrrwch anarferol yng