Tudalen:Wat Emwnt.pdf/63

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

62 WAT EMWNT gwladwr benderfynu prun oedd atgasaf ganddo, ei sen ddireidus ar y cyntaf ynteu ei gyfeillgarwch gwenieithus mwy diweddar. Cynygiai'r Sais hwn ddangos i Wat bob ystranc a scîl a wnai ei fywyd yn esmwythach yn y Barracks, ac am bob tafarn a phopeth ynglŷn ag ef, y tuallan iddo. Prin iawn ydoedd geiriau'r Cymro yn hyn oll am na fwriadai manteisio ar y naill na'r llall ohonynt. Ei benderfyniad ydoedd ceisio cefnu ar y bywyd newydd y cyfle cyntaf posibl, a chan y gwyddai'n dda erbyn hyn mai o orthrwm y gwasgwyd ef i'r got goch, ni chyfrifai ei bod yn ddianrhydedd arno i wneuthur ei oreu i fynd allan ohoni hefyd. Un peth a'i cysurai ychydig, sef, bod y grŵm a edmygai ei Feauty ef yn ystabl y Fountain gynt, wedi ei wasgu i'r fyddin fel yntau. Adroddasant eu helbul y naill wrth y llall, a buont yn gyfeillion mynwesol tra'n perthyn i'r un gatrawd.