Tudalen:Wat Emwnt.pdf/64

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

PENNOD XVI. Amser Pryderus. Ar ol ymadawiad Wat i fynd i'r dre i weld ei gefnder aeth tridiau heibio yn Nantmaden heb nemor i ymholiad yn ei gylch. Ond pan aeth y pedwerydd a'r pumed dydd i ben heb na gair oddiwrtho nac arwydd o unmath am ei ddychweliad, dechreuodd ei feistr bryderu am dano. Holodd yn fanwl y forwyn a'r gwas bach am fwriadau eu cydwas cyn ei fyned, ond heb fymryn o oleuni i egluro'r ab- senoldeb. "Wela's i mo Wat yn actio'n debig i hyn o'r bla'n," ebe fe. "Mae'n wir iddo oedi yn ffair Castellnedd un tro, ond dychwelodd o fewn corff y trydydd dydd y pryd hwnnw er gorfod cerdded pob cam o'r ffordd. Rhaid ei fod yn glaf neu wedi dyfod i ryw anlwc ne'i gilydd. Fe af heddi' cyn belled a thafarn Cryw i weld a ŵyr William Lewis rywbeth yn ei gylch. Mae mwy o alw yn ei dŷ e' gan borthmyn Aberhonddu na'r unty arall. Falla' y caf fla'n gair am Wat gan rywun yno." (6 Gwnaeth y meistr yn ol ei fwriad, ac wedi'r awr giniaw, cyfrwyodd ei geffyl, ac aeth dros y waun, â'i wyneb i Gwmtâf mewn ymchwil am ei was cyflog. 'Rwy'n gob'ith'o ar y nefoedd nad o's dim drwg wedi digwydd iddo ta' beth. 'Does dim gwell pladurwr nag e' yn y plwy', ac onibai am ei ddilyn o'r hen "gamblo â'r adar yma sy'n mynd â'i fryd, fyddai mo'i well yn unman am waith ffarm round i'r flwyddyn."