Tudalen:Wat Emwnt.pdf/65

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

64 WAT EMWNT "Gadewch i fi weld," ebe William Lewis, y tafarnwr, o'i holi gan ffermwr Nantmaden, " 'rwy'n cretu, ia, 'rwy'n siwr ma' bore' dydd Mawrth di- we'tha' y galws Wat yma am ddiferyn o ddiod ar 'i ffordd i'r dre. 'Roedd e' yma cyn dydd, a dyna'r pam 'rwy'n cofio cystal, achos fod Tomos Dafi, y drofer o Dregaron, wedi'm cnoco i i gwnnu 'chydig bach cyn hynny, ac i fi 'weyd wrth Wat am fwstro, a 'falla' cawsa' fe lifft ganddo ond 'i ddala wrth Glwyd y Mynydd. Dyna'r diwe'tha' wela's i ohono, achos, wedi i fi son am y drofer, fe gytiws Wat yn 'i sach a bant ag e' ar unwa'th. wyr yr Hen Binshwner rwpath am dano? um munud, a fe ddwa gyda chi mor belled a'r Glwyd i ga'l gweld." Wn i a Rhoswch (C Do, fe ddaliodd Wat Domos Dafi fel y'ch chi'n dweyd," ebe ceidwad y glwyd, ac fe aeth y ddou ymla'n heb golli amser, am fod hast mawr ar y Drofer i gyrraedd Aberhonddu erbyn naw. Dyna'r cwbwl a wn i am dano, ond i fi glywed Tomos yn dweyd mai da oedd i Wat siarad ag e wrth y glwyd, neu ergyd o ddryll a fyddai hi pe bâi e'n siarad o rywfan arall a hitha'n dywyll fel yr oedd hi. fydd Tomos Dafi yn ol y ffordd hyn fory eto. Tebig y bydd ganddo ragor i 'weyd pan ddaw. Fe ofynnaf iddo am dano." Fe "Ia, a chofia 'weyd wrtho am alw yn Nhafarn Cryw hefyd, wa'th ma'n rhaid inni weld y peth hyn i'r gwaelod," ebe'r tafarnwr yn ol. Ar hyn trodd y ffermwr a'i gyfaill ymaith oddi- wrth geidwad y glwyd, ac yna yr hysbysodd William Lewis gyntaf am fwriad Wat i werthu ei aderyn i Mr. Anthony Moore yn Aberhonddu, ac am y pris a