Tudalen:Wat Emwnt.pdf/66

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

AMSER PRYDERUS 65 obeithiai ei gael am dano." Os dewch chi i Gryw nos yfory'n hwyr chi gewch glywed popeth a fydd Tomos Dafi wedi 'i 'weyd am ei ran e' o'r daith." "Eitha' da, fe ddwa' tuag wyth o'r gloch, ac os na fydd brys mawr ar y Drofer, catwch ef yno nes y dwa' i.' Golwg eithaf digalon oedd ar y ffermwr yn dyfod i'w fuarth ei hun yr hwyr hwnnw, ac er ei holi gan bawb yn y ty ychydig oedd y gobaith a roddai ef am ddychweliad buan ei was. Ymhen dwyawr wedi hynny, ac a'r holl deulu wrth y bwrdd am eu hwyrbryd trodd y meistr yn sydyn at Mali'r forwyn, ac ebe fe, "A wyt ti, Mali, wedi bod yn bwydo ieir a cheiliogod eraill yn ddiweddar yn Nantmaden, na sy'n perthyn i'r fferm ?" "Y fi? Na, 'tawn i'n marw, mishtir, beth na'th ichi feddwl hynny? Fe fydda'r 'run man genny' i chi 'weyd 'y mod i'n dweid wya', bydda'n wir, ac os ta' hynny yw'ch barn am dano i-" (6 Heisht, Mali! dim o'r fath beth, 'y merch i, ma'n ddrwg genn' i fi ofyn i ti." Ar y foment neilltuol honno, bu cynnwrf disymwth gan y cŵn o dan y ford, a chododd Dai bach, mor ddisymwth â hynny i'w gyrru allan, a chan na ddaeth ef yn ol am beth amser anhysbys iddo oedd diwedd y ddadl rhwng Mali a'i meistr. Ond wedi cyrraedd ohono'r awyr agored, ebe fe wrtho ei hun, " Dyna ddihangfa !" ac wedyn wrth un o'r cwn, Dere yma, Moss bach, ti o'dd ffafret yr hen Wat, onide.' (( "3 Nos drannoeth wele wr Nantmaden unwaith eto yng Nghwmtâf, ac yn y parlwr bach yn Nhafarn E