Tudalen:Wat Emwnt.pdf/67

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

66 WAT EMWNT Cryw mewn ymgynghoriad sobr â meistr y ty, a'r drofer caredig. (6 "Y cwbwl a wn i am eich gwas," ebe'r olaf, yw i mi ei gario i'r dre a chael ysgwrs lled hir ag ef am ragolygon Hirwaun a'r cylch o dan Mr. Bacon. Ymddangosai i mi wrth ei siarad nad cymeradwy ganddo waith mawr Mr. Hywel Harris a'i gyd- weithwyr, er na ddywedodd ef ddim llawer yn ben- dant yn eu herbyn 'chwaith. Ar ein hymadawiad cynhygiodd yfed imi yn y Fountain wrth y bont, ac er imi wrthod, gwelais ef ei hun yn mynd i mewn i'r ty, a dyna'r ola' peth a wn i am dano." Trist iawn oedd osgo'r ffermwr yn cyrraedd ei gartref y waith hon eto o chwilio am Wat, a thybid bellach fod y gwas, beth bynnag oedd ei gyflwr, yn analluog i ddychwelyd ohono'i hun. Yr oedd y "farchnad fawr" ar y Mawrth o'r wythnos gan- lynol, a phenderfynodd y meistr fynd i'r dre ar y diwrnod hwnnw, er nad oedd ei fusnes yn galw am hynny. Wedi cyrraedd ohono'r dre aeth ar ei union i'r Fountain, sef y lle y dywedasai'r drofer iddo adael Wat ddiweddaf. "'Rwy'n cofio am y dyn yn eithaf da," ebe wraig y dafarn, "wa'th fe ofynnodd i fi am gan- iatad i fynd i'r stabl i fwydo ei geiliog game, ac o sôn am ddyn yn ymadael a lle'n ddisymwth, fe wna'th fy nai inna' yr un peth oddeutu'r un amser. Ond pwdu a wna'th e, 'rwy'n siwr a mynd tua thre at ei fam i Lanidlo's, wa'th er cymaint fy siarsio arno i beid'o ymladd â neb, clywa's i fod e' mewn scarmej yn Llanfaes bron yn union wedyn. Ofn fy wynebu i oedd ar y gwalch, a'i lygaid wedi eu duo, tebig. Aeth adre unwa'th o'r bla'n yr un