Tudalen:Wat Emwnt.pdf/68

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

AMSER PRYDERUS 67 modd. Ydw i'n 'nabod Mr. Anthony Moore,' wetsoch chi? Ydw wrth gwrs, hynny yw, fel ma' pobun arall yn 'i 'nabod e'-o ran ei weld. Ac ma' nhw'n dweyd wrtho i heblaw hynny ei fod wedi gwario llawer o arian Cyfarthfa tua'r Castle yna yn y misoedd diweddaf yma. Ydyw e' yno eto? wetsoch chi. Ffordd gwn i? Ewch lan i ofyn, 'dyw y Castle ddim ymhell, ond cofiwch ta' tafarn y gents yw e', a phopeth yn ddwbl bris i'r hen Fountain." Aeth y meistr i'r Castle yn ol y cyfarwyddyd, ond y cwbl a glybu am hanes Mr. Moore oedd, "Went away last week, the Lord only knows where." Teimlai y meistr ar hyn fod pob gobaith am weld Wat mwy yn fyw wedi diflannu'n llwyr. Ond cyn cyflogi neb arall i fugeilio ei braidd, aeth, serch hynny, bob cam o'r ffordd i Gyfarthfa, er mwyn gofyn i Mr. Bacon ei hun am ei nai. Dangos- odd yr hynafgwr diwyd lawer o garedigrwydd tuag ato, a gofidiai am nad allai ddywedyd llawer am symudiadau ei berthynas ieuanc ar hynny o bryd, mwy na'i fod yn swyddog yn y 40th Foot, a bod y gatrawd neilltuol honno ar fedr mynd allan i'r rhyfel ffyrnig rhwng New England a'r famwlad, ac mai prin iawn ydoedd newyddion oddiwrtho ef ar y goreu.