Tudalen:Wat Emwnt.pdf/69

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

PENNOD XVII. Ysgwâr y Wharf. Bu Sergeant Wilkins gystal â'i air i'r swyddog yr addawsai ef wella iddo ei recruits o fewn tri niwrnod, oblegid ymhen yr amser hwnnw, casglwyd at ei gilydd i gwr o feili'r Barracks yn Henffordd un ar ddeg o fechgyn digalon iawn yr olwg. Mud iawn oeddynt hefyd ar y cyntaf, er iddynt ddyfod yn ddigon llafar cyn diwedd y dydd. "( "Now then, wake up there!" ebe'r rhingyll a ofalai am danynt. Show you have a little of the smart sojer in you, will you? Stand at-ease ! Stand easy!" " "L A barnu wrth fynegiant yr wyneb pell oedd pob un ohonynt o chwennych ymddangos yn sojer o gwbl, heb son am y smart sojer." Deallodd Wat heb fod yn hir mai y grŵm o Aberhonddu, heblaw ef ei hun, oedd yr unig Gymro yn eu mysg. Gweision ffermydd o ardaloedd Llanandras a Leo- minster oedd y gweddill-ac er fod Jim Prydderch, sef y grŵm, lawer yn iau nag ef, gwasgodd y ddau at ei gilydd, ac oherwydd eu mynych a helaeth ddefnydd o'r hen iaith buan y llysenwyd hwynt yn Father Taffy a Taffy Junior. "Paid a hidio, Jim bach," ebe'r Father Taffy un diwrnod wrth ei gyfaill, os na cha' nhw rwpath gwa'th na'n hiaith yn 'n herbyn fe 'nawn o'r gora'. Ond fe fydd yn rhaid i fi roi bonclust i un o'r Lemsters yna cyn bo hir, mae e'n rhy haerllug. 'Rwy'n ei gweld hi'n d'od, ac fe'i caiff hi hefyd ar