"Beth yw hwnnw, fe garwn i wpod ?"
"Wel, cwnnu cyn pedwar, a lladd chwarter erw ynghanol y gwiped cyn brecwast. Ma' gwiped y bore'n wa'th na gwiped y nos, w'ost."
"Na wn i'n wir!" ma dy gefam di'n rhy fain yto, ond ti ddywi i wpod machan i! dywi-aros di flwyddyn neu ddwy, dyna i gyd! Be sy'n dy law di? Rho weld!"
"Rhwpath a ffeindias ar ben y wal o dan y tylatha', petha' od ond iefa ?"
"Od wir, ia, a mwy nag od. O's gen't ti ryw gynnyg beth y'n nhw ?"
"Dim y lleia.'
"Wel, rho nhw i fi, ac yna fe weta' wrthot ti."
"Cei, am wn i, ma' nhw'n rhwd i gyd ta' beth. Dydy nhw ddim o fawr gwerth i neb, greta i."
"Ddim 'nawr, 'falla', ond bachan! gaflets y'n nhw! ac fe fu rhain yn 'sgleirio fel yr arian un amser; steel spurs r'hen ffashwn ac yn gwneud hafog yn y pwll c'ilocod, tepig. Glywa'st ti mo enw Moc Bla'n Cadlan yrio'd?"
"Wel do, gan 'y nhad a chan 'y mam hefyd o ran hynny. D'o'dd e' ddim llawer o beth."
"Ddim beth, weta'st ti?"
"Dim llawer o beth i sôn am dano."
"O na! ddim yn 'ffeir'ad a gwynab hir ar Ddy' Sul a gwynab arall ar ddydd arall, os hynny wyt ti'n 'i feddwl. Na, dim Ranter 'chwaith yn 'y ngosod i a'm short yn uffern bob tro y gwela' nhw fi. Fe allwn feddwl ta' Press Gang y lle twym y'n nhw ar f'ened i, gan mor barod y'n nhw i ala dyn'on yno! Ond hen fachan piwr o'dd Moc er gwaetha'r