Tudalen:Wat Emwnt.pdf/70

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

YSGWAR Y WHARF 69 f'ened i. Dyw mishtir y Beauty bach ddim i ga'l 'i ddamshal mwy na cha's y Beauty ei hun. On'd o'dd e'n dderyn pert, Jim ?" Ond er cryfed penderfyniad Wat o beidio â chael ei ddamsang gan y recruit Seisnig o Leominster ni ddaeth dim o hynny, oblegid cyn pen nemor o ddyddiau gwasgarwyd y newyddiaid-rhai i'r gat- rawd hon, ac eraill i orsaf arall. Ni byddai gwasgaru o'r squad yn blino llawer ar Wat onibai colli ohono Jim o'i fynd i'r 6oth Foot. Gofidiodd lawer am hynny, canys heblaw colli ffrind da, collodd ef y modd y trefnasai ef, trwy gymorth Jim, iddynt ill dau ddangos eu gwadnau i'r fyddin am byth. Ef ei hun, bellach, allan o'r un ar ddeg, a arhosodd yn y 24th, a byddai yntau hefyd wedi gadael y gatrawd enwog honno pe daliasai ef ar y cynnyg a roed iddo o ymuno â'r llynges. "Me no go on the water," ebe fe, gan wybod mai llai a fyddai ei obaith o ddianc o long ryfel nag o unrhyw gatrawd bynnag. Wedi bod oddeutu deufis yn Henffordd, ag ef yn teimlo'n unig iawn heb Jim, daeth y newydd fod y 24th i'w symud i Fryste. Balch ydoedd Wat o'r newydd oblegid casheai Henffordd a châs perffaith, a thybiai y byddai unrhyw symudiad oddiyno fod er gwell. Wedi pabellu yn ninas fawr y gorllewin dech- reuodd Wat i fwynhau ei hun yn well. Yn unpeth yr oedd ei Saesneg yn gloywi i raddau, fel y gallai fynegi ei feddwl yn rhwyddach yn yr iaith honno nag y bu. Peth arall, ac un a'i diddorai'n fawr ydoedd bywyd masnachol y lle, y rholiau tybaco,