Tudalen:Wat Emwnt.pdf/71

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

70 WAT EMWNT y casgenni siwgr, a'r barilau rum, yn cael eu symud i'r ystordai eang, morwyr clustdlysog yn llwytho a dadlwytho'r llongau, tramorwyr o bob iaith a lliw yn cerdded ochrau'r llongbyrth, a'r ysgwâr mawr wrth ben y porthladd yn llawn o bobl yn prysuro'n ol a blaen beunydd. Ar yr ysgwâr hwn hefyd yr ymgynhullai torfeydd i wrando ar ddynion yn siarad ar bynciau cyhoeddus, oblegid amser cythryblus ydoedd hi, y famwlad yn mynnu ceryddu ei phlant hwnt yr Iwerydd, a'r plant hwythau yn bygwth torri pob cysylltiad â hyhithau am hynny. I'r ysgwâr hefyd deuai pobl ddefosiynol i siarad am bethau ysbrydol, am fuchedd dda yn y byd hwn, a choron anniflan mewn byd a ddaw. Ac er nad oedd Wat wedi talu fawr sylw erioed i siarad o'r fath, gymaint oedd sel y siaradwyr ar ysgwar Bryste dros y gwaith, a'u pryder am eu cyd-ddynion, fel y cafodd Wat ei hun ynghanol y tyrfaoedd heb allu nag awydd i ymadael â'r fan. Un dyn yn neilltuol a brofai'n atyniad iddo. Gŵr syth, gyda gwallt hirllaes dros ei ysgwyddau, a threm gorchfygwr yn ei lygaid, ydoedd hwnnw. Siaradai'n syml a deniadol dros ben, ac amlwg oedd ei fod yn ffefryn y dorf. "There he comes !" ebe pawb ar ei esgyn i'r fen a wasanaethai fel llwyfan, gan ddangos yn y frawddeg eu dyhead am ei glywed. Clywsai Wat ef droion, ac yn y diwedd gymaint oedd awydd y Cymro am ei wrando'n rhagor fel y dygai ei gamau ef i'r Upper Wharf ar bob rhyw dro ag y byddai ef yn rhydd o'r Barracks. Ag ef ymhlith tyrfa'r Wharf un prynhawn Saboth, mewn gwasanaeth crefyddol yno, a'r dorf yn canu'n