Tudalen:Wat Emwnt.pdf/72

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

YSGWAR Y WHARF 71 hwylus Guide me, O Thou great Jehovah, yr emyn newydd a oedd wedi dechreu tanio cynulleidfaoedd y bobl hyn, credai Wat iddo weld mewn côt goch ar gyrrau pellaf y dorf, un a adwaenai. "" Ia!" ebe fe, yr hen Jim yw e', 'rwy'n siwr," a chyda hynny cerddodd yn dawel ar gylch y tu allan i'r dorf er mwyn dyfod ato. Nid oedd Jim wedi ei weled ef hyd hynny, ac o wasgu o Wat ei fraich, gwaeddodd yn sydyn, "Wat Emwnt, yr hen Father Taffy, byth na chyffro i! Shwd mae hi fachgen ?" "Hush! Hush!" ebe rhai o'r gwrandawyr yn ymyl, ac yna y cofiodd Jim mai mewn gwasanaeth crefyddol yr oedd, a chan ostegu ei lais, arweiniodd ei gyfaill ychydig o ffordd oddiwrth y cylch er cael ymgom pellach. Nid oeddynt wedi bod gyda'i gilydd ond prin munud, cyn daeth atynt foneddiges ganol oed o osgo urddasol iawn, a chan eu cyfarch, ebe hi, "Two Cymry, I presume. I am sorry I cannot speak Welsh so well as I ought to, but I recognised it in a moment when you said, Shwd mae hi fachgen ?' What part of Wales do you come from, may I ask?" "We are both from Brecknock, madam," atebodd Jim, I, from Brecon town and my friend from Pen- deryn." & Brecknock! dear old Brecknock! You must come with me please, I want Charles (i.e., my hus- band) and his brother John, who is preaching now, to talk to you. Don't say me 'Nay.' I am so delighted to meet you, and serving your country too. Please follow me!