Tudalen:Wat Emwnt.pdf/73

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

PENNOD XVIII. Ar y Dwfn. EDRYCHODD y ddau Gymro i lygaid ei gilydd, ac o unfryd dilynasant y foneddiges i ystafell fechan y tu ol i'r llwyfan. Ac a hwy wedi eistedd am ychydig, clywsant y dorf yn canu emyn ac yna'n ymwasgaru. Ymhen ennyd wele'r pregethwr a dyn arall, sef gŵr y foneddiges yn dyfod atynt. " that you "My wife has just told me," ebe'r olaf, are Welshmen from her native county and that you attended our meeting. I am very pleased to greet you." Yna fe a'u cyflwynodd i'w frawd, sef oedd hwnnw y dyn, mawr John Wesley. Yntau a ddatganodd yr un teimladau atynt, a dywedyd ei fod yn falch fod rhai o filwyr y Brenin George yn ymofyn am wasgu at filwyr y Crist, ac mai eithaf posibl ydoedd bod yn filwyr da i'r ddau. Dywedodd ymhellach fod cwmwl du uwchben Lloegr Newydd ar y pryd, a'i bod yn ddyletswydd ar bob dyn teyrngar i ddal breichiau'r brenin yn wyneb ystyfnigrwydd yr Americaniaid. Rhoddodd yr ymgom argraff ddofn ar feddwl Wat, a theimlodd yn euog 'mron ym mhresenoldeb y gŵr urddasol am y mynnai atgof ddwyn yn ol iddo yr holl eiriau sen a daflasai ef am y Ranters at Dai bach gynt. "Os byth y gwelaf ef eto," ebe fe, "mi a'u tynnaf yn ol bob un. i yrio'd yn y bobl hyn wedi'r cwbwl." Ma' mwy na feddyla's