Tudalen:Wat Emwnt.pdf/74

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

AR Y DWFN 73 Effaith arall a wnaeth yr ysgwrs â Wesley arno oedd ymlid i ffwrdd pob meddwl am ffoi o'r fyddin. Rhaid bellach oedd ei hymladd hi i'r pen, er nad oedd ganddo y ddirnadaeth leiaf pa fath ben a brofai yn y diwedd. Siaradodd y ddau gyfaill a'i gilydd gyda difrifoldeb mawr drwy y prynhawn melys, a chytunent fod rhywbeth tuallan i'w deall hwy wedi eu dwyn at ei gilydd ar y dydd hwnnw, ac i ennill sylw y fath foneddiges barchus a Sarah Wesley a'u geiriau Cymraeg. Dychwelodd Jim i Bath (canys yno oedd ei gatrawd ar y pryd) cyn hwyrhau o'r dydd, ac aeth Wat i'w hebrwng i'r bad a'i dygai'n ol. Ond cyn ymadael cytunasant i ddal sylw ar symudiadau catrodau ei gilydd, a cheisio, pe fodd yn y byd, ymweld y naill y llall yn y gwahanol orsafoedd. Ond ni ddaeth hynny fyth i ben er gwybod ohonynt droion, eu bod, yn yr ymgyrchoedd yng ngwlad y gorllewin yn gymydogion i'w gilydd. Y 60th Foot a aeth yno gyntaf, a chyn pen tair wythnos dilynwyd hwy oddiar y Wharf anfarwol gan y 24th yr un modd. Tyrrodd y dinasyddion i ymyl y dŵr i ddymuno "Lwc Dda "i'r gatrawd Gymreig; a'r milwyr hwythau a safodd yn rhengoedd wrth y gynwel, ac ar y dec uchaf i ysgwyd eu dwylo a'u cadachau mewn ateb i'r dymuniadau da. Ymlithrodd y llestr i lawr yr afon yn rhwysgus dros ben, ac un o'r darluniau mwyaf tarawiadol a welodd Wat erioed ydoedd ei mynediad araf rhwng creigiau'r gorge i ennill afon Hafren yn is i lawr. Pe bai ef yn gwybod hanes, fe ddeuai i'w feddwl ymgyrch y Cabot i'r gorllewin a llawer argosi arall