Tudalen:Wat Emwnt.pdf/75

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

74 WAT EMWNT a aeth i'r un cyfeiriad yn ddiweddarach. Fe ddeuai hefyd, ysywaeth, i'w gof am lawer llestr a nofiai'r adwy brydferth hon gynt ar ei thaith i ddwyn dynion i gaethiwed. Ond ni wybu mo Wat y pethau hyn, ac felly byw yn rhamant y presennol yn unig a wnai ef. Erbyn y prynhawn yr oedd y llong wedi mynd heibio i'r ddwy ynys y Steep Holm a'r Flat Holm, ac yr oedd hi weithian gyferbyn â Bro Morgannwg. Collwyd golwg ar y tir am beth amser wedyn, ond cyn myned i gysgu eu hun cyntaf ar y dwfn, gweidd- odd rhywun allan, "Last sight of Wales," a rhuth- rodd y mwyafrif o'r cwmni i'r bwrdd i weld pel- ydrau ola'r dydd yn goreuro creigiau Gŵyr, Llawer İlanc na fu erioed allan, odid o'i blwy' ei hun cyn ei wasgu i wasanaeth y brenin, a deimlodd rywbeth yn cyfyngu ar ei anadl, yn yr olaf olwg hon ar dir ei febyd; a llawer un arall, a fu'n siaradus iawn ddwyawr yn ol, a oedd yn awr yn dawedog dros ben, ac a ddaliai i syllu'n ol at Gymru hyd nes y diflannodd ei glannau yn niwl y gorwelion. Swper i'r ychydig a'i chwenychai, diffoddi pob goleu ar arch yr utgorn crâs, a gwely cul gydag ambell glustog laith-dyna bennod yr hwyr cyntaf ar y don. Pwy, a pha sawl un o'r cwmni tybed a ga'i weld traeth Gŵyr yn ei groesawu'n ol? Llawer maes gwaed, a mwy o feddau unig, a allai ateb am lu niferus ar na ddeuent i ddaear Cymru mwy. A gwaeth fyth, Prydeiniwr yn brathu Prydeiniwr, brawd gledd yng ngledd a'i frawd-dyna'r anghlod! -dyna'r drychineb !