Tudalen:Wat Emwnt.pdf/76

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

PENNOD XIX. Ergyd i Bwrpas. PAN laniodd y 24th yn Staten Island wedi mordaith eithriadol deg, cawsant y lle mewn cyffro mawr. Braidd na edrychid arnynt fel gwaredwyr, a'u dyfodiad fel pe o anfoniad arbennig er achub y trigolion. Hyn ydoedd am fod yr Americaniaid, mewn canlyniad i fuddugoliaeth neu ddwy, wedi ymeofni'n fawr, ac wedi gwasgu ar y gwersyll ei hun. Mae'n wir eu bod yn ddiweddarach wedi tynnu yn ol rywfaint, a bod yn y dre arsiwn yn barod. Ond milwyr wedi eu profi eisoes a'u cael yn brin oedd llawer o'r rheiny. Mewn gair, Hessiaid, wedi eu cyflogi yn yr Almaen, sef oedd hynny, gwlad gysefin y brenin George ei hun, oeddynt, ac yng ngwasanaeth y famwlad, i'w chywilydd bythol, i osod i lawr Brydeinwyr ieuainc y Trefedigaethau. Dyma'r milwyr a oedd wedi eu profi y dyddiau cyn glaniad y 24th, ac wedi llanw'r cymeriad a rydd yr Hen Air i weision cyflog yn gyffredin, pan ffoisant oddiwrth ddyrnaid o amddiffynwyr penderfynol y tir. Er hynny i gyd, dyma'r milwyr a ymagweddent gerbron pobl yr ardal fel concwerwyr, gan hawlio iddynt eu hunain y lle blaenaf ymhopeth. Nid rhyfedd felly eu bod yn ffiaidd gan bawb, a chan neb yn fwy na'u cydfilwyr a ddygent arfau Prydain fel hwythau. Yn wir dim ond disgyblaeth filwrol o'r llymaf a rwystrodd derfysg peryglus rhwng y milwyr o'r hen wlad a'r tramoriaid haerllug hyn. Dyna gyflwr Staten Island ar brynhawn neill- tuol pan aeth allan o wersyll y 24th Wat Emwnt a