Tudalen:Wat Emwnt.pdf/77

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

76 WAT EMWNT dau o'i gydfilwyr gydag ef. Eu bwriad oedd rhoddi tro i weld y prif aneddau y sonnid cymaint am danynt gan bawb. Hyn wedi ei wneud, ac a hwynthwy yn teimlo'n sychedig troisant i mewn i westy bychan am lasiad o'r New England Ale, cyn dychwelyd ohonynt at eu dyletswyddau drachefn. Wedi eu bod hwy yno am beth amser, daeth ar eu holau i'r ty ddau Gorporal o'r Hessiaid ar yr un neges. Yr oedd y tri Phrydeiniwr eisoes wedi yfed hanner eu llestriaid eu hunain pan rodd yr Hessiaid eu harcheb hwythau. Dygodd y weinyddes y ddiod i mewn i'r ddau Almaenwr ac a'i gosododd o'u blaen yn foesgar, gan sefyll wedyn i aros am y tâl. Dipyn yn hwyrfrydig oedd yr Almaenwr i roddi ei arian, a phan wnaeth y weinyddes arwydd fod brys arni i ymadael gafaelodd y gŵr ynddi fel pe am ei chusanu. Hithau yn anfoddog iawn a geis- iodd ddianc oddiwrtho, ond ef ni ollyngai ei afael ynddi er dywedyd o'i gydwladwr wrtho,-" Lasz sie doch frei gehen! Du Narr!" Ond y funud nesaf yr oedd wedi gorfod ei gollwng yn rhydd, oblegid â digofaint yn melltennu yn ei lygaid, cododd Wat ar ei draed, ac a darawodd y gŵr difoes ar ei arlais nes cwympo o hwnnw ar draws yr Hessiad arall. Ar yr eiliad neidiodd y gŵr a darewsid ar ei draed drachefn, ond yn ei wynebu ac yn barod i ychwaneg o ddyrnu pa bai raid, yr oedd Wat. Ac o weld hynny, ac yn neilltuol o weld ohono ddau Brydeiniwr arall y tu cefn i'w d'rewydd, ymfoddlonodd ar arllwys allan ffrwd o fygythion na wyddai Wat a'i gyfeillion ddim o'u hystyr. Yna gan godi i fyned allan heb yfed ei