Tudalen:Wat Emwnt.pdf/78

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ERGYD I BWRPAS 77 ddiod ymadawodd y troseddwr yng nghwmni ei gyfaill gan bwyntio, ar ei fyned dros y rhiniog, at y streipiau ar ei fraich. "( "" Stripe or no stripe," ebe Wat, "he deserved what he have, and more should he get if he brave enough to stand up. Ar hyn daeth y weinyddes yn ol a chan ddiolch yn wresog i'r milwr a'i hamddiffynnodd "there's no living with the disreputable lot these days," ebe hi, " thank you ever so much!" Credai Wat, gan i'r Hessiad gyfeirio at ei streipiau y byddai court martial ar ol hynny, a'r weinyddes o dan yr un argraff, a gynygiodd, pe b'ai galwad arni, i ddyfod i'r gwersyll i fynegi y modd y bu. Ofnai ei ddau gyfaill hefyd y byddai cosb yn sicr o ddilyn, yn enwedig am fod y cadfridog ddeuddydd yn ol wedi gorchymyn yn gaeth nad oedd y King's Units i ymrafeilio a'i gilydd o dan unrhyw am- gylchiadau. y Bore trannoeth, fodd bynnag, yr oedd y gwersyll mewn cyffro llawer mwy na threial milwr cyffredin am daro corporal, a hwnnw'n Hessiad, oblegid brysneges a ddaethai fod Milwriad Clinton mewn cyfyngder mawr ym mherfeddion y wlad, a bod rhaid i'w adgyfnerthu costied a gostiai. Yn y Flying Column a wnaed er ei achub yr oedd y 24th, ac o'r awr y derbyniwyd y newydd hyd amser eu myned allan i'r wlad, ymdaflai'r milwyr, bawb fel ei gilydd, at y gwaith o baratoi. Pan ddaeth yr awr i gychwyn troediwyd i'r ym- gyrch yn lled galonnog, ond po bellaf y cerddent ymlaen, mwyaf i gyd oedd anghyfeillgarwch y trigolion, a chyn nos teimlent er mai'r iaith Seisnig oedd o'u cylch mai yn nhir y gelyn yr oeddynt.