Tudalen:Wat Emwnt.pdf/79

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

78 WAT EMWNT Am yr un rheswm, pan arhoswyd i wersyllu dros oriau'r tywyllwch, gosodwyd gwyliadwriaeth ddwbl i ofalu am ddiogelwch y cwbl. Perthynai catrawd o'r Hessiaid i'r golofn, a chan i rai o'r brodorion glywed y rheiny yn siarad yr Ellmyneg ar y daith, rhedodd y newydd fel tân mewn sofl mai Hessiaid atgas oeddynt oll. Cred- wyd unwaith yn wir, er nad oedd gwŷr arfog yn y golwg, y byddai i'r bobl gyffredin ymosod arnynt â cherrig, mor ffyrnig oedd eu hosgo at y lobsters, fel y galwent y cotiau cochion. Wedi deng niwrnod o deithio caled cyrhaeddwyd Trenton, lle yr oedd amryw o gatrodau mewn mawr gynni yn ceisio dal y gelyn yn ol. Ac er mor resynus oedd gwedd y golofn a frysiodd i'r ymwared gwaeth fyth oedd cyflwr yr arsiwn wan a amddi- ffynnai'r lle pwysig hwnnw. Fel y gallesid disgwyl yr oedd y croesaw i'r dyfodiaid newydd yn fawr, a'r holl wersyll fel pe wedi cael cryfhad calon. A daeth i Wat galondid dyblyg, oblegid i'w lawenydd, clybu fod gwŷr y 6oth Foot yn rhan o'r adran fechan a ddaliodd y gwarchae gyhyd. "Byddaf yn sicr o weld Jim cyn bo hir," ebe fe, "ac wedyn fe fydd genn' i gyfaill eto, a gwd-bei i'r hen unic- rw'dd yma wetyn. Ond er chwilio'r gwersyll i fyny ac i waered, ni chwrddodd â'i hen gyfaill o gwbl, er dywedyd o rai o fechgyn y 6oth ei fod yn y dre'n sicr ddigon. Ha, Wat! ychydig a wybuet ti fod cwpan chwerw yn dy aros, a bod angau yn llygadrythu ar dy gyfaill i'w daro i lawr cyn gafaelyd onot yn y llaw Gym- reig a ysgydwai dy un di mor onest ar y Wharf ym Mryste.