Tudalen:Wat Emwnt.pdf/8

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ciwradiaid a'r Ranters i gyd. Ffond o wmladd c'ilocod, dyna i gyd. Ac os o'dd hynny'n bechod, barna di! Bachan! 'd'os dim gwell gwaith yn y byd! Wel' di nhw? y ddou dderyn pert yn barod idd 'i gilydd, ac yn gellwng ati! Dyna i ti giem, dyna i ti blwc, y ddou yn wmladd hyd farw. Os creodd y Duw Mawr game cocks pa'm mae hen fenywod o ddyn'on am eu rhwystro i wmladd wn i? A dweyd y gwir wrthot ti'n onest, dyna'r rheswm i fi dd'od yn was i Nantmaden o gwbwl,-'ro'dd Moc hefyd wedi bod yma yn 'i amser e'. Ac 'rwy'n cretu amball waith fod 'i ysbryd e' yma eto. Ond wela's i ddim yn perthyn iddo yrio'd cyn i ti ga'l y gaflets yma. Fe'u catwa i nhw er cof am dano. Diolch! Dai bach, fe wna' i'r cwpwl nesa' os estynni di'r gwair i'r lan. Ond paid a lladd d'hunan, 'rwyt yn rhy ifanc i farw cyn ffair Castall nedd, ha! ha! At y gwaith gocrelyn bach ! fe dyf dy spurs ditha' yn y man!"