Tudalen:Wat Emwnt.pdf/9

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD II.
Ranters, Mawr a Bach.

DYNA'r ymgom a fu ar ddydd neilltuol yng nghyn- haeaf 1775 rhwng Wat Emwnt, gwas pennaf fferm Nantmaden yng ngodreon Brycheiniog, a Dai Price, y gwas bach o'r un lle.

Yr oeddynt wedi bod yn gyfeillgar o'r cychwyn, ac yn fwy felly yn awr nag erioed, oblegid onid oedd ganddynt gyfrinach arbennig iddynt hwy eu hunain ag a felysai eu sgwrs ar bob rhyw bryd? Y nos honno meddyliodd y ddau lawer am a ddywedwyd y prynhawn hwnnw wrth y "cwpwl gwair," a phan ddaeth i gof Wat fod rhai o berthynasau ei gydwas bach yn lled amlwg ymhlith y bobl a alwasai ef yn Ranters, parodd gryn flinder iddo, oblegid onid caredigrwydd y llanc a roddodd y gaflets gwerthfawr i'w feddiant?

Trannoeth yr oedd yr hin wedi cyfnewid er gwaeth, ac nid oedd nemor i ddim i'w wneuthur namyn cyweirio offer a phethau cyffelyb. Felly, buan y daeth y ddau wâs at ei gilydd eto.

"Etrach yma, Dai bach, d'own i'n meddwl dim drwg y ddoe pan 'weta's wrthot ti am y Ranters, nag o'wn wir. Fe wn fod dy ewyrth Shams yn ddyn mawr gyda nhw, a fe f'aswn wedi cnoi'm tafod cyn dweyd dim pe bawn i'n cofio. Ond dyna, -all neb gario'i berthnasa' ar 'i gefan, yn dda neu yn ddrwg, all e'n awr? Beth wyt ti'n 'weyd?"

"Yr y'ch yn eitha' iawn, Wat. Ond gwell oedd i chi son am y Ranters wrtho 'i nag wrtho fe.