Tudalen:Wil Ellis, Porthmadog-Cymru Cyf 29 1905.djvu/2

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i fyned i Awstralia, ond nid aeth y Doctor ddim pellach na Chaernarfon, a dychwelodd yn ol heb ddim. Nis gwn yn gywir amser marwolaeth y naill na'r llall; ond claddwyd y Dr. ym mynwent eglwysig y Penrhyn, a chladdwyd yr hynod Wil Ellis ym mynwent Ynyscynhaiarn, gyda'i hen gydnabod Ellis Owen, Ioan Madoc, ac Alltud Eifion. Heddwch i'w lwch.[1]

Caernarfon. M. T. MORRIS.



Yn y gerdd, os iawn y gwaith,
Wil Elis ddaw'n ol eilwaith."—A. E.

BETH yw'r tristwch? Mae Wil Elis,
Yr hen fachgen llonna rioed,
Wedi marw o'r bronchitis,
Pan yn bump a thrigain oed;
Yntau drengodd megis eraill,
Ond nid testyn syndod yw,
Pawb adwaenent yr hen gyfaill
Synnent sut yr oedd yn byw.

Cyn i'r Towyn droi'n Borthmadog,
Cychod bach yn llongau mawr,
'Roedd Wil Elis yma'n enwog,
Fel mae'r Port ei hun yn awr,
Pam daeth plismyn yma i swagro?
Pam daeth soldiers efo'u dril?
Nid oedd angen neb i'n gwylio
Pan oedd gennym gwmni Wil.

Yn y Port bu'n Gapten siriol,
Bu yn hir yn "Faer y dre,'
Rhoi gorchymyn awdurdodol
Byddai'n station y railwê;
Mawredd mewn dychmygol swyddi,
Oedd ei ymffrost hyd ei dranc,
Rhag cael gwraig yn ben i'w boeni,
Byw a marw fu'n hen lanc.

'Roedd Rhagluniaeth yn ei gofio,
Gan ei fwydo yn ddifeth,
Catodd lety'n nodded iddo
Er na thalodd rent na threth;
Mewn hen adail oedd yn ymyl
Cafodd gysgu yn y gwair;
Nid oedd yno fuwch na cheffyl,
Mwy na'r Port ar ddiwrnod ffair.

Weithiau'n rhynu yn yr eira,
Weithia'n chwys mewn hafaidd des,
Byddai'n myned ar negesau,
A'i ddisgwyliad am y pres;
Pan yn gofyn tâl am weithio
Byth ni byddai ef yn swil,
"Thank you mawr," medd rhywun wrtho,
"Ple gwnai wario?" ebe Wil.

Nid ai ef fel rhai'n llechwraidd,
I'r tafarndy gyda grot,
Gan ddwyn allan yn ddirgelaidd
Beint o gwrw dan ei got;
Ni bu'n flysig nac yn feddw,
Os cael ambell wydriad wnaeth
Pwy wahardda beint o gwrw
I un fu'n byw ar datws llaeth?

Byddai Wil yn canu weithiau,
Pan yn mynd ar nosawl hynt,
Llais fel hwnnw glybu Balaam
Gan ei hen gydymaith gynt;
Wrth ei glywed ef yn lleisio
Gwenai, winciai ser y nen,
Yntau' mlaen wnai lawen deithio
Hyd at Feudy'r Garreg Wen.

Mewn Eisteddfod gyda'r Beirddion,
Byddai'n gwisgo ruban glas,
Adeg Lecsiwn byddai'n gyson
Yn areithio gyda blas;
Bu yn dadleu nerth ei esgyrn
Dros iawnderau'r bach a mawr,
Collodd Lib'rals un o'u cedyrn
Pan gadd Wil ei dorri lawr.

Byddai'n myned i'r addoliad,
Weithiau i'r Capel weithiau i'r Llan,
Agorai geg a chauai lygaid,
Ac fe chwyrnai dros y fan;
Cafodd lawer blasus bwniad
Yn ei wyneb draws ei gefn,
Pan ddeffroai rhoi ochenaid—
Yna chwyrnai'n uwch drachefn.

Os arwyddai ffurf ei wyneb
Fod yn Wil ychydig wall,
Ei gyfrwysdra oedd ddihareb,
A'i ffraethineb oedd ddi-ball;
'Roedd yn onest ac yn ffyddlon,
Tystion i'w gywirdeb gawn;
Bu yn rhodio llwybrau union
Gyda choesau ceimion iawn.


  1. Tynnwyd y darlun o hono adeg yr Eisteddfod ym Mhorthmadog.