Tudalen:William-Jones.djvu/10

Gwirwyd y dudalen hon

Cafodd fawd ei droed chwith i mewn i dwll yn ei hosan, a rhegodd.

"Go damia!"

Gŵr mwyn a thawel oedd William Jones, uniawn ei ffordd a selog yn y capel. Ni fyddai byth yn rhegi. Teg ag ef ac â darllenydd y stori hon yw gwneud hynny'n berffaith glir ar y dechrau. Rhaid inni gofio inni ddigwydd ei ddal ar foment go anffodus yn ei hanes: dyma'r tro cyntaf erioed iddo fod yn hwyr i'r chwarel a'r tro cyntaf erioed iddo dorri dannedd- gosod ei wraig.

"Be" ddeudist ti ?"

"'Go damia' ddeudis i a 'Go damia' on i'n feddwl. Cyffra o'r gwely 'na, wir, i roi tamad yn fy nhun-bwyd i. Wyddost ti i bod hi wedi'r caniad, a bod dy ddannadd-gosod di yn yíflon ar y llawr 'ma, a bod y dŵr oedd yn y glas . . ?"

"Be!" A chododd Leusa Jones o'i gwely mewn braw.

Rhuthrodd William Jones i lawr y grisiau yn nhraed ei >sanau a mynd ati i dorri bara-ymenyn ar gyfer ei dun-bwyd. Nid oedd yn grefftwr yn hynny hyd yn oed ar ei orau, ond heddiw torrai "wadnau clocsiau' o ryw fath ar frys ffyrnig. Yna trawodd ddarn o gaws yn y tun, ac wedi rhoi ei esgidiau am ei draed, rhedodd i'r drws ac o'r tŷ. Clywodd lais ei wraig yn swnian rhywbeth am ei dannedd-gosod druan, ond nid oedd ganddo amser i dalu sylw i'w chri.

Yr oedd y stryd yn wag: ef oedd yr olaf un. Brysiodd ymlaen, gan wisgo'i goler a chau botymau ei wasgod. Daria, petai o wedi codi pan glywodd sŵn y cloc-larwm, yn lle mynd i freuddwydio'n ffôl. Pam y breuddwydiodd o am y wraig honno a'r cig moch a'r wyau, tybed? Hy, am fod Leusa yn gorwedd yn ei gwely bob bore yn lle codi i'w gychwyn i'r gwaith. Ugeiniau o weithiau y ffraeasant ar y pwnc, a phob tro torrai Leusa i grio ac i gwynfan am wendid ei chalon. Byth er pan soniodd gwraig y drws nesaf fod wyneb-go binc yn arwydd o galon wan, yr oedd Leusa'n berffaith sicr fod ei chalon hi ar ddiffygio. Ac ers tro bellach poenid hi gan fil a myrdd o afiechydon eraill.

"Ar ôl, heddiw, William Jones?"

Nodiodd, gan wenu, a brysiodd ymlaen. Nid oedd ganddo amser i aros hefo rhyw greadur fel Now Portar. Ond brasgamodd Now wrth ei ochr, gan ddweud ei fod yntau hefyd yn hwyr i'w waith yn yr orsaf. Rhyw ddyn yn yfed ac yn