Tudalen:William-Jones.djvu/103

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a theithio drwy'r dydd. "Trueni amdanynt!" fyddai'r si o sedd i sedd. Yna canent. "Trueni?" Yr oedd ef yn ddigon o broffwyd i wybod y codai'r dyrfa ar ei thraed mewn gor- foledd. Beth bynnag arall a fyddai yn y canu, byddai enaid ynddo, enaid a gyrhaeddodd ei lawn dwf ym mhryder y dydd- iau blin.

Ac wrth wrando ar y côr dywedodd William Jones Amen- yn dawel wrtho'i hun. Pur anaml y clywid côr yn Llan-y- graig—ar wahân i un y Bwl ar nos Sadwrn—a theimlai wrth eistedd yn y cyngerdd hwn iddo grwydro i ryw fyd dieithr, ysblennydd. Yr oedd syndod plentyn yn ei lygaid fel y pwysai ymlaen i syllu ar y côr, a theimlai'n ddig wrth ferch fach anniddig a eisteddai ryw dair sedd o'i flaen: yn ei gwely y dylai'r greadures yna fod. Digwyddodd edrych ar y cloc cyn hir, a sylweddoli gyda braw ei bod hi'n tynnu at ddeg o'r gloch; llithrasai'r amser heibio fel breuddwyd. Cododd Mr. Rogers i gyhoeddi enw'r darn olaf—"The Sword of the Spirit" o waith Caradog Roberts, un o'r darnau ar gyfer yr Eisteddfod. Eisteddodd William Jones yn ôl, yna ymlaen, yn ôl eto, yna ymlaen i bwyso ar y sedd ac i geisio cuddio'r dagrau a gronnai yn ei lygaid. A phan dawodd y côr, chwythodd ei drwyn yn ffyrnig.

A phrin y gallai Crad gael gair o'i ben ar y ffordd adref.

"Be' oeddat ti'n feddwl o'r consart, William?" oedd cwestiwn Meri amser swper.

"Wyddwn i ddim bod y fath ganu yn y byd, hogan," oedd yr ateb, a swniai braidd yn floesg.

"Trueni amdanyn nhw!" meddai Meri.

"Trueni?"

"Ia, allan o waith bron i gyd. Pam wyt ti'n swnio mor syn, William?"

"Wel ..." Ond ni cheisiodd egluro, er i rywbeth am "orfoleddu mewn gorthrymderau" wibio i'w feddwl. Ni theimlai fod gallu Mr. Rogers i drin geiriau ganddo ef; ni wnâi ond baglu drostynt.

Cyn tynnu oddi amdano, safodd yn hir eto wrth ffenestr y llofft. Yr oedd hi braidd yn hwyr, ac ni ddeuai sŵn o unman, dim ond anadlu rheolaidd Wili John o'r gwely. Uwch cwsg tywyll y tip glo hongiai cwmwl bychan aur a phorffor, ar ffurf croes, a syllodd William Jones arno. Am y Groes y buasai pregeth Mr. Rogers onid e? A "Gwaed y Groes"