Tudalen:William-Jones.djvu/108

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lyfrgell Neuadd y Gweithwyr. Ei ofid mwyaf oedd na allai ganu'r organ yn y capel fel cynt, ond darllenai lyfrau am gerddorion a cherddoriaeth yn lle hynny.

Hoffai William Jones Idris Morgan yn fawr, ac âi i'r drws nesaf am sgwrs ag ef yn bur fynych. Ni chyfarfuasai â neb mwynach ei ysbryd erioed. Er hynny, clywsai mai un go wyllt oedd ef cyn i'r anffawd ddigwydd, a phan orweddai yn yr ysbyty, daliai i ofyn iddo ef ei hun ac i bawb arall paham yr oedd yn rhaid iddo ef ddioddef felly. Ofnai ei dad a'i fam am gyflwr ei feddwl ar adegau, ond wedi un o ymweliadau aml Mr. Rogers, cawsant eu mab un diwrnod yn fwyn a thawel a breuddwydiol. Yna, i orffen y driniaeth feddygol, gyrrodd yr ysbyty ef i awel y môr am rai wythnosau, ac ysgrifennai lythyrau siriol oddi yno. Pan ddychwelodd adref, ni soniai air am ei anaf, dim ond am y llyfrau a ddarllenai a'r cewri a gyfarfyddai ynddynt, am fyd rhyfeddol y meddwl a'r ysbryd. Yn wir, ymron na chredech yr edrychai ar yr anhap fel drws i blas yn llawn o hud a lledrith. Ychydig iawn a wyddai William Jones am ramant y plas hwnnw, ond melys oedd gwrando ar Idris Morgan yn adrodd hanes rhyw gerddor neu fardd neu athronydd wrtho. Diar, pwy a fuasai'n meddwl bod y fath bobl wedi byw yn yr hen fyd 'ma, yntê? A dyna'r Albert Schweitzer 'na yr oedd Mr. Rogers yn sôn amdano mor aml. Diawch, dyna ddyn!

"Dewch draw fan hyn i chi gal gweld artist wrth 'i waith," meddai David Morgan, gan ei arwain ar draws yr ystafell. "Fe fasa'r Brenin yn falch o'r cwpwrdd yma."

"Fe ddylai fod, beth bynnag," oedd sylw William Jones wrth syllu ar y seld fawr hardd. "Faint gymerodd hon i chi, Seimon?"

"Pythefnos. 'Wy 'di cymryd f'amsar'da hon."

Dyn tal, tenau, tawedog, oedd Simon Jenkins, a threuliai ef, a fuasai gynt yn saer yn Nymbar Wan, y rhan fwyaf o'i amser yma yn y Clwb. Prin yr oedd unrhyw ddodrefnyn na allai ef ei lunio, a'i lunio'n gywrain, gan roddi i'r pren huodledd celfyddyd. Wedi blynyddoedd o ofalu am ddrysau a phethau tebyg yn y pwll, câi hamdden yn awr i naddu mewn coed ei freuddwydion cudd. Y drwg oedd, meddai trefnydd y Clwb, na fwriadwyd i neb droi allan gymaint o ddodrefn ag a wnâi Simon Jenkins. O, yr oeddynt yn dda, yn wych, ond damo, 'doedd dim digon o goed i'w cael i'r bachan, w.