Tudalen:William-Jones.djvu/113

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un sylw i goes cadair na throwsus gorau Crad wedi cael hwnnw rhwng ei ddannedd. Ond yr oedd yn well gan Fot lodrau Crad na'r asgwrn o rwber. Ar Grad ei hun yr oedd y bai am hynny. Digwyddai, un diwrnod, fod yn gwisgo'i hen drowsus gwaith, ac nid oedd wahaniaeth yn y byd ganddo faint a gnoai'r ci ar ei odre; yn wir, câi hwyl fawr yn gwthio'i droed ymlaen a'i thynnu'n ôl yn bryfoclyd, gan lusgo'r ci wrth ei ddannedd o amgylch yr aelwyd. Yna aeth i'r llofft i newid ei ddillad, a phan ddaeth yn ôl i'r gegin yn ei drowsus gorau, credai Mot mai dychwelyd i ailymaflyd yn y chwarae yr oedd. Ni ddeallai'r ci o gwbl paham y rhoddwyd cerydd mor llym iddo am fynd ymlaen â'r gêm, a llanwyd ei feddwl ifanc â dryswch llwyr pan gafodd slap am geisio denu llodrau Mr. Rogers, y gweinidog, i'r ymrafael.

Ond yn awr, wedi pedwar mis o gyngor a cherydd, yr oedd Mot yn dysgu ymddwyn yn fwy gweddaidd. Y mae'n wir y daliai i gredu bod crafu dodrefn a drysau'n chwanegu at eu hurddas a'u gwerth; mai ei swydd ef mewn bywyd oedd bwyta, yn gyfreithlon ac anghyfreithlon, o fore tan nos; a bod ganddo hawl, yn ei dŷ ei hun, i estyn croeso cynnes i bob un o'i gyfeillion, ond fe ddôi doethineb yn araf deg.

Wili John oedd y drwg pennaf. Darllenasai William Jones yn rhywle mai un pryd y dydd a oedd orau i gi, a phenderfynodd gadw at y rheol honno. Ond gan y gweithiai Wili John mewn siop gigydd, cludai adref ddigon o esgyrn a darnau o gig i fwydo holl gŵn y sir. Bu'r ddadl rhyngddo ef a'i ewythr yn un hir a chwyrn, ond o'r diwedd trawodd y ddau ar gyfaddawd—dau bryd y dydd, Wili John i ofalu am un a William Jones am y llall. A bu heddwch—nes i'r chwarelwr ddarganfod, wedi synnu am beth amser fod cynifer o esgyrn o gwmpas y lle, na chadwai ei nai o gwbl at y cytundeb. Yr oedd hyn yn brofedigaeth fawr iddo, gan i Wili John arwyddo'r cyfamod trwy boeri ar ei fys a gwneud llun croes ar ei dalcen.

Meri a gwynai fwyaf am y ci. Cyn gynted ag y golchai hi lawr y gegin fach, fe ruthrai Mot i mewn i'w addurno ag ôl ei draed. Neidiai hefyd, yn wlyb ac yn fudr, i'r gadair orau, a chafwyd ei ysgrifen un diwrnod ar wely Eleri. Beth a ellid ei wneud, mewn difrif? Penderfynodd William Jones geisio'i werthu i rywun, ac os methai, ei ddifodi. "Be’?" meddai Meri. "Gwerthu Mot! Tyd yma, 'ngwas del i