Tudalen:William-Jones.djvu/115

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oddi yno yng nghwmni David Morgan, a rhywfodd neu'i gilydd, daeth y côr i edrych ar y chwarelwr hefyd fel tipyn o gerddor. Nid am y mentrai roddi barn ar bynciau cerddorol, ond am y gallai edrych yn bur gall a nodio'n ddoeth pan eglurid rhywbeth gan yr arweinydd. Cytunai Mr. Rogers a David Morgan fod William Jones yn un o'r gwrandawyr gorau a gawsant erioed, a hyfrydwch iddynt oedd taflu golwg i'w gyfeiriad i weld yr eiddgarwch gloyw yn ei lygaid.

Y gwir oedd bod William Jones yn arwr-addolwr, a thrwy'r blynyddoedd ni chawsai neb y gallai ymgrymu o'i flaen. Ei dad? Na, ei ofni ef a wnâi yn fwy na dim arall, a phan aeth yn wael, tosturiai wrtho. Ei fam? Cymerai ei gwrhydri a'i thynerwch hi'n ganiataol, hyd yn oed wedi iddo dyfu'n ddyn. Mr. Lloyd? Wel, "yr hen Lloyd" didramgwydd a diymadferth oedd ef iddo, yn proffwydo'n grynedig ei bod hi am law neu am ysbaid o dywydd teg. Ei gyfeillion a'i gydnabod yn Llan-y-graig? Pobl yn rhyw fyw o ddydd i ddydd oeddynt hwy, heb un diddordeb arbennig ar wahân i'w gwaith a'u cartrefi. Ac wedi gweld cymaint ar Leusa ac Ifan Siwrin, yr oedd arno newyn a syched am feddyliau mwy aruchel na'r eiddynt hwy. Nid ymresymiad William Jones yw hwn, wrth gwrs, ac ni hoffwn awgrymu iddo godi un bore a phenderfynu brysio draw i'r drws nesaf cyn brecwast i benlinio gerbron y cerddor. Ond sylwai Meri a Chrad y soniai lai bob dydd am Fob Gruffydd a Thwm Ifans, a mwy o hyd, a chyda brwdfrydedd mawr, am Mr. Rogers neu David Morgan. Ac fel y nesâi'r Nadolig a'r ŵyl gerddorol, âi'r teulu i gredu mai "côr William Jones" oedd "côr Dai Morgan" mwyach.

Chwarae teg i siopwyr Bryn Glo, gwnaethant ymdrech deg i addurno'r ffenestri at y Nadolig; yn wir, yr oedd y lle lawer yn siriolach nag y cofiai ef Lan-y-graig. Pan âi drwy'r pentref gyda'r nos ar ei ffordd i'r capel neu i gyfarfod o'r côr, teimlai William Jones fel hogyn wrth syllu ar yr addurniadau a'r an- rhegion a'r goleuadau lliwiedig a'r amrywiaeth o ddanteithion a ffrwythau. A'r noson cyn y Nadolig bu hi'n dipyn o ddadl yn y tŷ.

William," meddai Meri ar ôl te, "mae Crad a finna' wedi bod yn siarad hefo'n gilydd."

"O?"

"Am y 'Dolig a phresanta' a phetha' felly. 'Dydan ni