Tudalen:William-Jones.djvu/120

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwyl, paffiodd â Mot, a dechreuodd ef ac Arfon chwarae Rygbi hefo clustog fel pêl. Yna daeth cnoc uchel y postman, a dug Eleri bentwr o lythyrau i mewn. "Ma' 'na dri i chi, Wncwl," meddai.

Oddi wrth Leusa yr oedd y cyntaf—cerdyn Nadolig addurnol yn ei sicrhau mewn Saesneg yr un mor lliwgar fod eu cyfeillgarwch fel y gelynnen, yn fythol wyrdd. Trosglwyddodd ef i Grad gyda gwên braidd yn gam. Ond syllodd yn hir ar y ddau arall—un oddi wrth Bob Gruffydd a'r llall oddi wrth blant Twm Ifans i "Yncl William." Sut yr oedd pethau'n mynd yn Llan-y-graig erbyn hyn, tybed? Chwarae teg i'r hen Fob am gofio amdano, onid e? Diar, yr oedd yna le yn nhŷ Twm Ifans heddiw, onid oedd? Âi ef draw i'r Hendre i de bob dydd Nadolig, a chofiai'r hwyl a gawsai flwyddyn ynghynt yn adrodd stori wrth Gwen a Megan a Meurig. Gwelodd Meri fod y dagrau'n dechrau cronni yn llygaid ei brawd.

"Rŵan, allan â chi'r dynion i gyd," meddai, "i Eleri a finna' gael llonydd i wneud y cinio. Ewch o'r ffordd, wir."

"Reit," meddai William Jones. "Tyd, Motsi Potsi."

Chwarddodd Wili John yn uchel. Darganfyddai ei ewythr ryw enw newydd ar Fot bob dydd, a châi'r bachgen hwyl fawr bob tro y clywai un ohonynt.

Gwenai Crad a'i frawd yng nghyfraith ar ei gilydd wrth gerdded i lawr i'r pentref a gwylio plant yn chwarae â'u teganau yn yr holydd. Nid adwaenent ond dau neu dri o'r plant, ond cofient lawer tegan yn cael ei lunio yng Nghlwb y Diwaith. Ia, hogyn hwn-a-hwn, y mae'n rhaid, meddent, gan gofio am y tad yn chwysu wrth roi'r modur neu'r sgwter neu'r peiriant pren wrth ei gilydd yn llofft yr ystabl. Petai Meri gyda hwynt, adwaenai hithau hefyd y doliau heirdd a wisgwyd mor ofalus yng Nghlwb y Merched.

Mwynhaodd y teulu ginio Nadolig heb ei ail. Yr oedd y cigydd y gweithiai Wili John iddo yn ŵr caredig iawn, a rhoesai i Feri goes o borc yn anrheg y diwrnod cynt; cawsai hefyd, rai dyddiau cyn hynny, ddarn o siwed ganddo ar gyfer y pwdin. O ardd Shinc ar ochr y mynydd y daethai'r bresych, a gwnaeth y ffrwythau a'r cnau a brynasai William Jones y noson gynt ddiweddglo anrhydeddus i'r pryd. Uchel oedd y siarad a'r chwerthin a'r tynnu-coes, ac yna canodd Arfon a'i ewythr ddeuawd neu ddwy i gyfeiliant uchel yr organ-geg.